Print

Print


Tydi pobl y de ddim yn dweud ‘priciau’.  ‘Brigau / brige’, ynteu.

Dwi’n dychmygu beth fyddai’r ymateb taswn i’n crybwyll yr ymadrodd ‘rasys priciau’ wrth bobl ifanc y de...

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 17 March 2016 11:09
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pooh-sticks

ie siwr, priciau de. "Rasys priciau" hwyrach, a "priciau rasio" am y ffyn eu hunain?

On 17/03/2016 10:57, anna gruffydd wrote:
Ella gellid hepgor y Pw a'i galw'n 'gem pricia bach' ne rwbath felly? Fasa 'ffyn' ddim yn taro beth bynng - rhy fawr - fedra chdi'm chwara pooh sticks efo ffyn.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-03-17 11:43 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>:
Mae'n debyg fod yna gêm a elwir 'Pooh-sticks' ac wedi Gwglo dyma ganfod mai "Winnie the Pooh" ddyfeisiodd y gêm yn llyfrau AA Milne.

Dwi wedi gweld llyfrau Cymraeg "Wini'r Pw" - ond mae "ffyn pw" yn swnio'n fudur braidd. Rhyfedd bod "pooh-sticks" yn dderbyniol - mae'n rhaid mai'r 'h' sy'n gwneud y gwahaniaeth hanfodol. Mae "poo-stick" yn cyfleu syniad eitha gwahanol.

Dwi'n gwbod nad pnawn dydd Gwener ydi hi eto, ond unrhyw awgrymiadau? ;-)

Geraint