Shw mae Garri,Mae Melville Richards (Tir a Gwlad tud. 175) yn awgrymu taw enw afon yw Garan yn Llangarren yn Henffordd, "yr un ag enw'r aderyn a gellid disgwyl Llanaran. Mae'n bosibl felly mai'r ffurf hynaf oll oedd Nant Garan, a bod llan wedi disodli nant."Hwyl,Deric John (yn Aberdar ond yn wreiddiol o'r Bont.)--2016-02-06 0:19 GMT+00:00 Dafydd Lewis <[log in to unmask]>:Handi iawn.
Ond go brin ei fod o'n chwarae i'r Storks, dros chwe chan mlynedd yn ol!
Dafydd
On Fri, 5 Feb 2016 18:32:46 -0500, Garry Nicholas <[log in to unmask]> wrote:
>Mi wn i am fachgen o'r new Garan- yn arfer chwarae i'r Scarlets
>Garry
>
>
>
>-----Original Message-----
>From: Dafydd Lewis <[log in to unmask]>
>To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]>
>Sent: Fri, 5 Feb 2016 23:02
>Subject: Llangaran, Llangarron ayyb
>
>Oes na rywun yn gwybod beth oedd ystyr 'garan' neu 'garen' yn yr enwau hyn?
>Roedd na Sant Caran yn yr Alban, ond efallai mai 'garan' yr enw ar 'stork' oedd y tarddiad gwreiddiol?
>(Oes na enwau eraill yn cynnwys 'garan' wedi'i enwi ar ol aderyn, yn y Gymraeg o leiaf?)
>Diolch am unrhyw wybodaeth,
>Dafydd
>
>
websites:Place-names in south Wales - http://someplacenamesinsouthwales.4t.com
Enwau Lleoedd - https://sites.google.com/site/enwaulleoedddecymru/homePenderynPontardulais: