Print

Print


  Os nad Dfydd ydio, ella mai Tmothy Sunders ydio.

On 29/02/2016 14:31, Dafydd Timothy wrote:
> Pwy 'di Tmothy?!
>
> On 29/02/2016 14:23, Gorwel Roberts wrote:
>>
>> Gennyt ti, Ann, Eluned a Tmothy.
>>
>> A fyddet ti’n ei sgwennu o mewn dogfen rwysgfawr swyddogol, mawr ei bri?
>>
>> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On 
>> Behalf Of *Geraint Lovgreen
>> *Sent:* 29 Chwefror 2016 14:19
>> *To:* [log in to unmask]
>> *Subject:* Re: ATB/RE: sydd + ddim
>>
>> Caniatâd gan bwy? ;-)
>>
>> On 29/02/2016 14:10, Gorwel Roberts wrote:
>>
>>     Wel, dyna’r pwynt mewn ffordd. A fyddai arddel y fath ffurf ar
>>     ffurflenni’n helpu eu gwneud yn fwy dealladwy i’r darllennydd
>>     cyffredin?  Ond teimlaf fod angen caniatâd arnaf i’w defnyddio!
>>
>>     *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and
>>     vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar
>>     ran/On Behalf Of *Geraint Lovgreen
>>     *Sent:* 29 Chwefror 2016 14:08
>>     *To:* [log in to unmask]
>>     <mailto:[log in to unmask]>
>>     *Subject:* Re: sydd + ddim
>>
>>     Dwi'n anghytuno, - "dyna'r dyn sydd ddim yn dod" ydi'r ffordd
>>     naturiol o ddweud hynny, yn hytrach na "dyna'r dyn nad yw'n dod"
>>
>>     Geraint
>>
>>     On 29/02/2016 13:15, Eluned Mai wrote:
>>
>>         Cytuno pob gair Ann - dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig bod
>>         plantos ifainc yn clywed ac yn darllen amrywiaeth o ffurffiau
>>         yn eu cyd-destun; dyna'r adeg mae o'n mynd i mewn i'w
>>         hisymwybod ac yn ei gwneud hi'n haws i gyfathrebu'n gywir yn
>>         y dyfodol.  Mae plant ifainc yn ddigon tebol i ymdopi mewn
>>         ffordd naturiol.  (ddim wedi darllen erthygl Heini chwaith -
>>         maddeuwch os ydw i ar y trywydd anghywir)
>>
>>         2016-02-29 12:46 GMT+00:00 Ann Corkett
>>         <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>:
>>
>>         'Rwy'n siwr bod gan bobl eraill well clust na fi o ran beth
>>         sy'n dderbyniol, a hefyd mwy o brofiad fel mamau a thadau,
>>         ond teimlaf fod rhaid cofio'r gwahaniaeth rhwng yr hyn mae
>>         pobl ifanc (a darllenwyr eraill) yn medru ei gynhyrchu a'r
>>         hyn maent yn medru ei ddeall. Mae siwr bod "nad yw [ddim]" yn
>>         ddealladwy i bron pawb, ac mae 'na obaith i gael rhai i'w
>>         arfer eu hunain.
>>
>>         Sut mae plant yn dysgu iaith yn naturiol? - trwy glywed eu
>>         rhieni'n defnyddio geirfa a ffurfiau nad ydyn nhw eu hunain
>>         wedi dod ar eu traws o'r blaen. Wrth gwrs mae eu rhieni'n
>>         ceisio siarad a'r plant eu hunain mewn geiriau syml, ond a
>>         ydynt fel arfer yn defnyddio ffurfiau anghywir, gan fwriadu
>>         newid yn nes ymlaen, ac a ydynt yn parhau a'r arfer heibio
>>         oed y "me-me"?
>>
>>         Os ydyn ni'n dal i symleiddio'r iaith at lefel ysgrifennu'r
>>         rhai lleiaf abl, bydd y lefel yn gostwng yn is ac yn is.
>>
>>         Ann
>>
>>         On 29/02/2016 12:22, Gorwel Roberts wrote:
>>
>>             Helo,
>>
>>             Welodd pawb erthygl  ddifyr iawn yn ddiweddar gan Heini
>>             Gruffurdd?
>>
>>             Mae Heini’n ein hannog i ystyried oedran darllen ein
>>             darllenwyr ac ymhlith pethau eraill mae’n awgrymu peidio
>>             â defnyddio’r negydd ‘ni’.
>>
>>             A yw’n dderbyniol bellach ysgrifennu ‘sydd ddim’ yn lle
>>             ‘nad yw’?
>>
>>             Hynny yw, o ran naturioldeb a bod yn dealladwy ac yn glir
>>             ac o ran dilyn teithi’r iaith lafar?
>>
>>             (Dwi ddim am eiliad yn awgrymu arddel yr erchyll ‘nad sydd’)
>>
>>             Cofion,
>>
>>             Gorwel
>>
>>             -- 
>>
>>             Ymwadiad:
>>
>>             Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw
>>             wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni
>>             dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o
>>             unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir
>>             o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
>>
>>             Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at
>>             sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi
>>             yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi,
>>             neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon
>>             iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich
>>             union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y
>>             person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych
>>             wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen,
>>             copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac
>>             unrhyw gyfran ohoni.
>>
>>             O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid
>>             Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>>
>>             Disclaimer:
>>
>>             While reasonable care is taken to ensure the correctness
>>             of any information and advice given in this
>>             correspondence no liability is accepted for losses
>>             arising from any errors contained in it and you are
>>             reminded of the need to obtain your own professional advice.
>>
>>             The information in this email and any attachments is
>>             intended solely for the attention and use of the named
>>             addressee(s). If you are not the intended recipient, or
>>             person responsible for delivering this information to the
>>             intended recipient, please notify the sender immediately.
>>             Unless you are the intended recipient or his/her
>>             representative you are not authorised to, and must not,
>>             read, copy, distribute, use or retain this message or any
>>             part of it.
>>
>>             Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of
>>             Information Act 2000 the contents of this email may be
>>             disclosed.
>>
>>             No virus found in this message.
>>             Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com>
>>             Version: 2016.0.7442 / Virus Database: 4537/11718 -
>>             Release Date: 02/29/16
>>
>>     -- 
>>
>>     Ymwadiad:
>>
>>     Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth
>>     a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd
>>     am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n
>>     gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor
>>     proffesiynol eich hun.
>>
>>     Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r
>>     person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r
>>     derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person
>>     sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi
>>     ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r
>>     person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef
>>     neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi,
>>     ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac
>>     unrhyw gyfran ohoni.
>>
>>     O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth
>>     2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>>
>>     Disclaimer:
>>
>>     While reasonable care is taken to ensure the correctness of any
>>     information and advice given in this correspondence no liability
>>     is accepted for losses arising from any errors contained in it
>>     and you are reminded of the need to obtain your own professional
>>     advice.
>>
>>     The information in this email and any attachments is intended
>>     solely for the attention and use of the named addressee(s). If
>>     you are not the intended recipient, or person responsible for
>>     delivering this information to the intended recipient, please
>>     notify the sender immediately. Unless you are the intended
>>     recipient or his/her representative you are not authorised to,
>>     and must not, read, copy, distribute, use or retain this message
>>     or any part of it.
>>
>>     Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information
>>     Act 2000 the contents of this email may be disclosed.
>>
>> -- 
>>
>> Ymwadiad:
>>
>> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a 
>> chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am 
>> unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac 
>> fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
>>
>> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r 
>> person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y 
>> cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am 
>> drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr 
>> ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person 
>> y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi 
>> i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na 
>> chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
>>
>> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 
>> gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>>
>> Disclaimer:
>>
>> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any 
>> information and advice given in this correspondence no liability is 
>> accepted for losses arising from any errors contained in it and you 
>> are reminded of the need to obtain your own professional advice.
>>
>> The information in this email and any attachments is intended solely 
>> for the attention and use of the named addressee(s). If you are not 
>> the intended recipient, or person responsible for delivering this 
>> information to the intended recipient, please notify the sender 
>> immediately. Unless you are the intended recipient or his/her 
>> representative you are not authorised to, and must not, read, copy, 
>> distribute, use or retain this message or any part of it.
>>
>> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 
>> 2000 the contents of this email may be disclosed.
>>
>
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
> Avast logo <https://www.avast.com/antivirus> 	
>
> This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
> www.avast.com <https://www.avast.com/antivirus>
>
>