Rwy’n hoffi 'Bwyd - ein dyfodol’ gan fod iddo’r elfennau hyn i gyd: ‘The food of our future’, 'Food is our future’, ‘Our future and food’ yn ogystal â’r cyfieithiad llythrennol cyntaf. Mae’r ail un ar y rhestr hefyd yn cynnig yr amwysedd hyn, ond mae’r lleill yn fwy unochrog, er efallai’n gliriach ar yr olwg gyntaf. Gobeithio fod hyn o ryw gymorth. Bethan Bethan Mair MA Y Gwasanaeth Geiriau The Word Service [log in to unmask] 07779 102224 Skype: bethanmair54 Ms Bethan Mair Hughes Y Berth 29 Coed Bach Pontarddulais Abertawe / Swansea SA4 8RB On 18 Ion 2016, at 16:03, Sioned Fidler <[log in to unmask]> wrote: > Rhaglen gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw hon sy'n edrych ar y heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol o ran bwyd (pa fwydydd fydd yn gynaliadwy, beth na fydd ar gael i ni mor hawdd ac ati) a beth allwn ni ei wneud nawr i weithredu. Rydym ni wedi chwarae gyda sawl fersiwn o'r teitl Cymraeg, tybed pa un fyddech chi yn ei ffafrio? > > Bwyd - ein dyfodol > Bwyd - y dyfodol > Dyfodol ein bwyd > Bwyd a'r dyfodol > Bwyd a'n dyfodol