Ia, dyna’r egwyddor – y ddadl er enghraifft yw na fyddai rhywun sy’n methu mynd i mewn i’r theatr yn anabl heblaw bod rhywun yn cynllunio’r lle efo grisiau a heb lifft. ‘The social model of disability’ yw’r enw ar hyn ac mae’n cael ei ddisgrifio’n reit dda yn fama:

http://www.scope.org.uk/about-us/our-brand/social-model-of-disability

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 15:33
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: able-bodied

 

Sori, dwi'm yn dallt hyn o gwbl. Yn Saesneg, medde chi, cymdeithas sydd yn anablu pobol, nid rhyw nam ar y coesau etc?

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2016-01-22 16:22 GMT+01:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>:

Dw i’n derbyn bod gan bobl anabl yr hawl i ddiffinio’r termau hyn eu hunain a gofyn i bobl eraill eu defnyddio a bod hynny’n egwyddor y dylid ei pharchu.

Wedi dweud hynny, dw i’n amau’r rhesymeg sydd yn sail i’r dadleuon am ‘abl’ ac ‘anabl’ yn Gymraeg.  Mae’r ddadl yn Saesneg yn gwneud synnwyr oherwydd mai ‘disabled’ yw’r gair a bod hynny’n awgrymu bod rhywun neu rhywbeth yn ‘hanablu’ pobl – sef y gymdeithas gan amlaf.  Dydy’r un ddadl ddim yn dal dŵr yn Gymraeg oherwydd dydy ‘anabl’ ddim yn awgrymu eu bod yn ‘cael eu gwneud yn anabl’ gan gymdeithas – mae’n ddisgrifiad o gyflwr. Felly dw i ddim yn meddwl bod ‘anabl’ yn Gymraeg yn cyfleu’r un ‘dehongliad cymdeithasol’ â disabled.  Os derbynnir bod y gair ‘anabl’ yn dderbyniol, rhaid derbyn bod ‘abl’ yn dderbyniol hefyd ar lefel resymegol. 

 

Ond eto, dw i’n meddwl y dylid parchu barn pobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli.

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 14:55
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: able-bodied

 

Gwallgofrwydd llwyr.

Be sy'n bod ar "abl o gorff"? Dydi'r Saesneg hyd yn oed wedi mynd mor orffwyll â dweud "non-disabled people" - dyna fyddai'r cyfieithiad o "pobl nad ydynt yn anabl", ynde?

A does dim llawer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers pan oedd "pobl anabl" yn derm i'w osgoi a "phobl ag anableddau" yn derm i'w arddel.

A phwy sy'n mynd i ddeud wrth Gymdeithas y Deillion (https://www.facebook.com/Cymdeithas-Y-Deillion-Gogledd-Cymru-North-Wales-Society-For-The-Blind-156051854464415/?fref=photo) eu bod yn tramgwyddo yn erbyn y Brawd Mawr? Sôn am Newspeak!

Yn ddiamynedd,
Geraint

On 22/01/2016 13:39, Huw Roberts wrote:

Helo Ann,

 

Tybed a yw’r canllawiau ar y wefan hon yn gyfredol?

 

http://www.disabilityartscymru.co.uk/cy/lle-cyfartal/lle-cyfartal-cefndir-i-faterion-anabledd/iaith-ac-anabledd/

 

Mae pobl yn pryderu am ddefnyddio’r geiriau anghywir ac achosi tramgwydd i bobl anabl; maent am wybod pa eiriau y gallant eudefnyddio’n ddiogel, a pha rai y dylent eu hosgoi.

Mae’n bwysig bod pobl anabl yn arwain y ddadl ynghylch yr iaith a’r derminoleg sydd orau ganddynt, a dyna pam yr ydym yn cymryd y termau a ffefrir gan y mudiad pobl anabl.

Dylai’r derminoleg isod fod yn ddigonol ar gyfer defnydd cyffredinol, ond os nad ydych yn siŵr gofynnwch i bobl anabl beth yr hoffent gael eu galw a sut yr hoffent gael eu disgrifio. Os nad yw hyn yn briodol, cysylltwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru a all roi cyngor i chi neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall a all eich helpu.

Termau a ffefrir

Pobl anabl – ‘term ymbarél’ sy’n cyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd

Defnyddwyr cadeiriau olwyn

Pobl â nam symudedd

Pobl ag anawsterau dysgu / pobl ag anableddau dysgu / pobl anableddau dysgu

Pobl fyddar / pobl trwm eu clyw / bobl wedi’u byddaru

Pobl ddall / pobl â nam ar eu golwg

Pobl ag epliepsi / parlys yr ymennydd (neu ba bynnag yw’r nam sydd ar y person)

Pobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl / goroeswyr y system iechyd meddwl

Pobl nad ydynt yn anabl

Er y gellir defnyddio’r term ‘pobl anabl’ yn eithaf eang fel term cyffredinol, yr eithriad yw pan gyfeirir at Bobl fyddar o’r gymuned Fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith gyntaf. Mae pobl fyddar yn ystyried eu hunain yn lleiafrif ieithyddol y mae pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail iaith. Gall persbectif y gymuned fyddar ar wahaniaethu fod yn wahanol iawn i bersbectif pobl sydd wedi’u byddaru neu bobl trwm eu clyw sydd wedi colli eu clyw yn ddiweddarach mewn bywyd ac y mae iaith lafar yn iaith gyntaf iddynt yn hytrach nag iaith arwyddion.

Termau i’w hosgoi

Yr anabl / y deillion / y byddar ac ati (peidiwch â dweud ‘y / yr’ o gwbl!)

Pobl ag anableddau

Pobl a chanddynt heriau corfforol

Pobl sy’n gaeth i gadair olwyn

Y methedig

Pobl sy’n dioddef o…

Sbastig

Ynfyd / anghytbwys / gwallgof

Pobl araf

Pobl ag anghenion arbennig

Pobl abl

 

 

 

Mae’r testun yn parhau ar y wefan, ac yn ddigon difyr/defnyddiol, ond i grynhoi, yr awgrym mae’n debyg yw bod dweud ‘Pobl nad ydynt yn anabl’ yn well na dweud ‘Pobl abl’.

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 22 Ionawr 2016 13:08
To: [log in to unmask]
Subject: able-bodied

 

Mae'n ddrwg gennyf ofyn cwestiwn mor syml, ond 'dw i ddim yn sicr mwyach ym mha eirfa y dylwn edrych am yr ateb gwleidyddol gywir:
"[Mae'r testun eisoes wedi son am weithgareddau cadair olwyn]  The able-bodied young people did abseiling and climbing in the morning"

Beth sy'n dderbyniol ar gyfer "able-bodied", os gwelwch yn dda?

Llawer o ddiolch,

Ann


-- 
Ann Corkett
5 Heol Belmont
BANGOR, Gwynedd
LL57 2HS
 
(01248) 371987
[log in to unmask]