O’n i’n amau y byddai ‘na eithriadau ond o leia roedd o’n atal y plant rhag sgwennu nôs a hâf.
Difyr sut mae’r pethau ‘ma wedi datblygu
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 10:39
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: Mnemoneg
Beth am bûm?
On 22 Jan 2016 10:35, "Carolyn Iorwerth" <[log in to unmask]> wrote:
Roedd rhywun yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon wedi dysgu’r plant i ddefnyddio’r gair Alenorwy (ddim yn gofiadwy iawn i mi ac mae’r rheol reit gymhleth hefyd ond roedd o’n gweithio iddyn nhw!)
Dyma’r rheol:
Dim ond ar y llafariaid yn y gair ‘Alenorwy’ a dim ond o flaen y cytseiniaid sydd yn y gair hwnnw y mae’n bosib rhoi to bach. Hwylus iawn i blant Caernarfon sy’n tueddu i roi to bach ar bopeth ym mhobman.
h.y. Dim ond ar a, e, o, w ac y o flaen l, n ac r. (Geiriau sy’n tarddu o’r Saesneg yn eithriad e.e. grŵp am wn i)
Roeddwn i’n meddwl ar y pryd bod hyn yn hynod o gymhleth ond dw i’n dal i’w gofio.
Hefyd, Geraint, fe gawson ni sgwrs rywbryd am yr un roedden ni’n ei ddefnyddio yn Rhydfelen i gofio pa ferfau Ffrangeg oedd yn defnyddio être. Ond dw i ddim yn ei gofio’n iawn sydd braidd yn eironig am femnonig! Gofyn i Eleri – bydd hi’n gofio. Dr RR rhywbeth MD!
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint
Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 10:06
At: [log in to unmask]
Pwnc: Mnemoneg
Mae patrymau fel
Cy Py Ty
Gy By Dy
eLl eM Rhy
ac
am, ar at,
dros, drwy, dan,
heb, i, o
hyd, wrth, gan
yn adnabyddus, ond yr unig frawddeg yr wyf i wedi dod ar ei thraws yw
Caradog O’r Mynydd Gafodd Gig I Frecwast
ar gyfer lliwiau’r enfys.
A ydych chi’n gwybod am unrhyw rai (Cymraeg) eraill?