Print

Print


O’n i’n amau y byddai ‘na eithriadau ond o leia roedd o’n atal y plant rhag sgwennu nôs a hâf.

Difyr sut mae’r pethau ‘ma wedi datblygu

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 10:39
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: Mnemoneg

 

Beth am bûm?

On 22 Jan 2016 10:35, "Carolyn Iorwerth" <[log in to unmask]> wrote:

Roedd rhywun yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon wedi dysgu’r plant i ddefnyddio’r gair Alenorwy (ddim yn gofiadwy iawn i mi ac mae’r rheol reit gymhleth hefyd ond roedd o’n gweithio iddyn nhw!)

 

Dyma’r rheol:

Dim ond ar y llafariaid yn y gair ‘Alenorwy’ a dim ond o flaen y cytseiniaid sydd yn y gair hwnnw y mae’n bosib rhoi to bach. Hwylus iawn i blant Caernarfon sy’n tueddu i roi to bach ar bopeth ym mhobman.

 

h.y. Dim ond ar a, e, o, w ac y o flaen l, n ac r.   (Geiriau sy’n tarddu o’r Saesneg yn eithriad e.e. grŵp am wn i)

 

Roeddwn i’n meddwl ar y pryd bod hyn yn hynod o gymhleth ond dw i’n dal i’w gofio.

 

Hefyd, Geraint, fe gawson ni sgwrs rywbryd am yr un roedden ni’n ei ddefnyddio yn Rhydfelen i gofio pa ferfau Ffrangeg oedd yn defnyddio être. Ond dw i ddim yn ei gofio’n iawn sydd braidd yn eironig am femnonig!  Gofyn i Eleri – bydd hi’n gofio. Dr RR rhywbeth MD!

 

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint
Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 10:06
At: [log in to unmask]
Pwnc: Mnemoneg

 

Mae patrymau fel

Cy Py Ty

Gy By Dy

eLl eM Rhy

 

 ac

 

am, ar at,

dros, drwy, dan,

heb, i, o

hyd, wrth, gan

 

yn adnabyddus, ond yr unig frawddeg yr wyf i wedi dod ar ei thraws yw

 

Caradog O’r Mynydd Gafodd Gig I Frecwast

 

ar gyfer lliwiau’r enfys.

 

A ydych chi’n gwybod am unrhyw rai (Cymraeg) eraill?