O’n i’n amau y byddai ‘na eithriadau ond o leia roedd o’n atal y plant rhag sgwennu nôs a hâf. Difyr sut mae’r pethau ‘ma wedi datblygu Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 10:39 At: [log in to unmask] Pwnc: Re: ATB/RE: Mnemoneg Beth am bûm? On 22 Jan 2016 10:35, "Carolyn Iorwerth" <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > wrote: Roedd rhywun yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon wedi dysgu’r plant i ddefnyddio’r gair Alenorwy (ddim yn gofiadwy iawn i mi ac mae’r rheol reit gymhleth hefyd ond roedd o’n gweithio iddyn nhw!) Dyma’r rheol: Dim ond ar y llafariaid yn y gair ‘Alenorwy’ a dim ond o flaen y cytseiniaid sydd yn y gair hwnnw y mae’n bosib rhoi to bach. Hwylus iawn i blant Caernarfon sy’n tueddu i roi to bach ar bopeth ym mhobman. h.y. Dim ond ar a, e, o, w ac y o flaen l, n ac r. (Geiriau sy’n tarddu o’r Saesneg yn eithriad e.e. grŵp am wn i) Roeddwn i’n meddwl ar y pryd bod hyn yn hynod o gymhleth ond dw i’n dal i’w gofio. Hefyd, Geraint, fe gawson ni sgwrs rywbryd am yr un roedden ni’n ei ddefnyddio yn Rhydfelen i gofio pa ferfau Ffrangeg oedd yn defnyddio être. Ond dw i ddim yn ei gofio’n iawn sydd braidd yn eironig am femnonig! Gofyn i Eleri – bydd hi’n gofio. Dr RR rhywbeth MD! Carolyn Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> ] Ar ran/On Behalf Of Geraint Anfonwyd: 22 Ionawr 2016 10:06 At: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Pwnc: Mnemoneg Mae patrymau fel Cy Py Ty Gy By Dy eLl eM Rhy ac am, ar at, dros, drwy, dan, heb, i, o hyd, wrth, gan yn adnabyddus, ond yr unig frawddeg yr wyf i wedi dod ar ei thraws yw Caradog O’r Mynydd Gafodd Gig I Frecwast ar gyfer lliwiau’r enfys. A ydych chi’n gwybod am unrhyw rai (Cymraeg) eraill?