Nid ceisio tanseilio penderfyniadau gan bobl yn y maes ydw i, dim ond eisiau bod yn hapus yn fy meddwl bod yr ystyr yn iawn. Dwi'n siŵr bod pobl yn gweithio'n galed iawn i fathu termau ar ein cyfer, a diolch byth am hynny - ond mae'n rhwystredig os na chawn ni holi os byddwn ni'n amau, hyd yn oed os nad oes sail i'n hamheuaeth.
Yn hollol. Pam amau term sy wedi’i benderfynu’n benodol ar gyfer cyfieithwyr fel ni gan bobl sy’n deall y maes? P’un a ydyn ni’n hoffi term neu beidio, fy marn i yw dylem ei dderbyn os yw wedi’i argymell gan bobl sy’n arbenigo mewn maes. Dyna’r unig obaith am ryw fath o gysondeb.
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 19 January 2016 18:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: profound and multiple learning disabilities
“Anawsterau dysgu dwys a lluosog” sydd gan TermCymru am “Profound and multiple learning difficulties”. Pam wyt ti’n amau?
Siân
On 19 Jan 2016, at 18:33, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:
Beth fasai pobl yn ddefnyddio am 'profound and multiple learning disabilities'? Dwi wedi gweld 'anableddau dysgu dwys a lluosog' lawer gwaith ond ddim yn sicr a yw hyn yn diffinio'r anabledd yn gywir.