Print

Print


Bosib mai fi sy'n mwydro, Mary.  Roeddwn i wedi cael rhyw syniad bod 'na amrediad o anableddau dysgu, yn amredeg o'r 'mild' i'r 'profound', sef y mwyaf difrifol, gyda'r 'severe', sef 'y difrifol' yn dod o flaen y 'profound'.  A'r diffiniad o 'profound' a geir yn yr Oxford Dictionaries ar-lein yw: 'of a disease or disability - very severe'.  Ac amau oeddwn i a oedd 'dwys' yn cyfleu hyn.  Wedi dweud hynny, efallai mai fy meddwl bach i sy'n ceisio symleiddio pethau er mwyn deall.

Nid ceisio tanseilio penderfyniadau gan bobl yn y maes ydw i, dim ond eisiau bod yn hapus yn fy meddwl bod yr ystyr yn iawn.  Dwi'n siŵr bod pobl yn gweithio'n galed iawn i fathu termau ar ein cyfer, a diolch byth am hynny - ond mae'n rhwystredig os na chawn ni holi os byddwn ni'n amau, hyd yn oed os nad oes sail i'n hamheuaeth.


2016-01-19 23:01 GMT+00:00 Mary Jones <[log in to unmask]>:

Yn hollol. Pam amau term sy wedi’i benderfynu’n benodol ar gyfer cyfieithwyr fel ni gan bobl sy’n deall y maes? P’un a ydyn ni’n hoffi term neu beidio, fy marn i yw dylem ei dderbyn os yw wedi’i argymell gan bobl sy’n arbenigo mewn maes. Dyna’r unig obaith am ryw fath o gysondeb.

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 19 January 2016 18:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: profound and multiple learning disabilities

 

“Anawsterau dysgu dwys a lluosog” sydd gan TermCymru am “Profound and multiple learning difficulties”.  Pam wyt ti’n amau?

 

 

Siân

 

On 19 Jan 2016, at 18:33, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:

 

Beth fasai pobl yn ddefnyddio am 'profound and multiple learning disabilities'?  Dwi wedi gweld 'anableddau dysgu dwys a lluosog' lawer gwaith ond ddim yn sicr a yw hyn yn diffinio'r anabledd yn gywir.