Yn hollol. Pam amau term sy wedi’i benderfynu’n benodol ar gyfer cyfieithwyr fel ni gan bobl sy’n deall y maes? P’un a ydyn ni’n hoffi term neu beidio, fy marn i yw dylem ei dderbyn os yw wedi’i argymell gan bobl sy’n arbenigo mewn maes. Dyna’r unig obaith am ryw fath o gysondeb. Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 19 January 2016 18:38 To: [log in to unmask] Subject: Re: profound and multiple learning disabilities “Anawsterau dysgu dwys a lluosog” sydd gan TermCymru am “Profound and multiple learning difficulties”. Pam wyt ti’n amau? Siân On 19 Jan 2016, at 18:33, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote: Beth fasai pobl yn ddefnyddio am 'profound and multiple learning disabilities'? Dwi wedi gweld 'anableddau dysgu dwys a lluosog' lawer gwaith ond ddim yn sicr a yw hyn yn diffinio'r anabledd yn gywir.