Print

Print


Dwi'n tueddu i ffafrio'r gair 'difrifol' o ran ystyr, fel mae Gareth yn
awgrymu - am 'severe learning disabilities' beth bynnag - ond gan fod 'na
'severe' a 'profound learning disabilities' yn bodoli, mi fasa'n rhaid
gwahaniaethu rhwng y ddau.

2016-01-19 20:20 GMT+00:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:

> Dwi’n meddwl bod 'anableddau dysgu dwys a lluosog’ yn ei gyfleu’n well.
>
> Siân
>
> On 19 Jan 2016, at 19:48, gareth tucker <[log in to unmask]> wrote:
>
> Hi Eluned,
>
> Anawsterau dysgu difrifol ac amryfal ?
>
>
>
> ------------------------------
> *From:* Eluned Mai <[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> *Sent:* Tuesday, 19 January 2016, 18:58
> *Subject:* Re: profound and multiple learning disabilities
>
> Amau ydw i a yw ystyr y gair 'dwys' yn cyfleu'r peth yn iawn, mewn
> perthynas ag anabledd.  Rhyw feddwl mai 'very severe' yw'r ystyr - a yw
> 'dwys' yn cyfleu hynny yma?  Hefyd wedi gweld 'anableddau amryfal' am
> 'multiple disabilities' ar Porth Termau ac yn meddwl tybed a yw 'amryfal'
> yn well cyfieithiad yn y cyswllt hwn.
>
> 2016-01-19 18:37 GMT+00:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
>
> “Anawsterau dysgu dwys a lluosog” sydd gan TermCymru am “Profound and
> multiple learning difficulties”.  Pam wyt ti’n amau?
>
> <Screen Shot 2016-01-19 at 18.36.10.png>
>
> Siân
>
> On 19 Jan 2016, at 18:33, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:
>
> Beth fasai pobl yn ddefnyddio am 'profound and multiple learning
> disabilities'?  Dwi wedi gweld 'anableddau dysgu dwys a lluosog' lawer
> gwaith ond ddim yn sicr a yw hyn yn diffinio'r anabledd yn gywir.
>
>
>
>
>
> <Screen Shot 2016-01-19 at 18.36.10.png>
>
>
>