'Rwy'n meddwl bod Delyth yn gofyn am atebion i'r e-bost ar waelod ei neges - wn i ddim a fydd hi'n sylwi ar bob ateb yn dod i W-T-C. Ann On 12/01/2016 15:43, Gareth Evans Jones wrote: > > Pnawn da. > > Fe hoffwn i ddod i’r digwyddiad. > > Diolch a chofion gorau, > > Gareth > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of > *Delyth Prys > *Sent:* 12 January 2016 14:06 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* gwahoddiad i lansio cyfrol ar gyfieithu > > *GWAHODDIAD: Lansio Cyfrol Newydd /Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu/ > (goln Delyth Prys a Robat Trefor)* > > *Lleoliad: *Canolfan Bedwyr, Adeilad Dyfrdwy, Ffordd y Coleg, > Prifysgol Bangor** > > *Dyddiad: *Nos Iau, 21ain o Ionawr, 2015** > > *Amser: *5.30 yr hwyr > > Dewch i’n helpu i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol arbennig hon sy’n llawlyfr > i gyfieithwyr profiadol a newydd fel ei gilydd. Noddwyd y gyfrol gan y > Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac fe’i datblygwyd gan Uned Technolegau > Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, lle mae’r rhan fwyaf o’r > cyfranwyr yn gweithio. Cyhoeddir y gyfrol ar ffurf e-lyfr ar wefan > Llyfrgell Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar > https://llyfrgell.porth.ac.uk/. > > Cyflwynir y gyfrol yn arbennig i’r holl fyfyrwyr a ddilynodd gyrsiau > cyfieithu’r cynllun TILT rhwng 2013 a 2015, ac yn arbennig 21 myfyriwr > a lwyddodd i ennill y Dystysgrif Ôl-radd Astudiaethau Cyfieithu a > Thechnoleg Cyfieithu, Prifysgol Bangor, gan ddilyn y cwrs yn > rhan-amser ar ben eu dyletswyddau bob dydd fel cyfieithwyr a > swyddogion iaith. > > Bydd yr achlysur hefyd yn gyfle i longyfarch Dawn Wooldridge ar ennill > ei doethuriaeth am ei thraethawd “Proffilio Gwallau: Dadansoddiad o’r > Gwallau a wneir gan Gyfieithwyr Saesneg-Cymraeg” a noddwyd gan > Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.** > > ** > > > > **** > > ** > > *Manylion y gyfrol:*Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, > yn trafod agweddau ar gyfieithu, technolegau cyfieithu a hanes a > sefyllfa'r diwydiant yng Nghymru. Mae’r cyfraniadau yn seiliedig ar > waith ymchwil y cyfranwyr, ac ar gyflwyniadau a roddwyd ganddynt wrth > hyfforddi myfyrwyr a chyfieithwyr mewn sesiynau ar gyfer Cymdeithas > Cyfieithwyr Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chwrs Tystysgrif > Ôl-radd Astudiaethau Cyfieithu a Thechnoleg Cyfieithu Prifysgol > Bangor. Cyfrol wreiddiol sydd ar gael ar ffurf e-lyfr yn unig. > > Mae’r penodau fel a ganlyn: > > Pennod 1: Cyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol cyfieithu yn y Gymru > gyfoes - Tegau Andrews > > Pennod 2: Cyweiriau Iaith y Gymraeg – Robat Trefor > > Pennod 3: Geiriaduron, termiaduron ac adnoddau defnyddiol eraill - > Delyth Prys > > Pennod 4: Meddalwedd a Thechnoleg Cyfieithu - Gruffudd Prys, Delyth Prys > > Pennod 5: Golygu a Phrawfddarllen- Mared Roberts > > Pennod 6: Theori ac ymarfer cyfieithu yng Nghymru heddiw- Sylvia Prys > Jones > > Pennod 7: Oes Rhywun yn Darllen ? - Heini Gruffudd** > > Byddemyn ddiolchgar pe gallech roi gwybod os ydych yn gallu mynychu’r > digwyddiad erbyn dydd Llun 18fed o Ionawr, drwy e-bostio > [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>. > > Image removed by sender. http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/logo-a2.png > <http://www.bangor.ac.uk/> > > > > *Delyth Prys* > Pennaeth Uned Technolegau Iaith > Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr > > E-bost: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > Ffôn: +44 (0)1248 382800 > > Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG > > Image removed by sender. > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter-16.png@prifysgolbangor > <https://twitter.com/prifysgolbangor> Image removed by sender. > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/facebook-16.png/PrifysgolBangor > <https://www.facebook.com/PrifysgolBangor> > > > > *Delyth Prys* > Head of the Language Technologies Unit > Language Technologies Unit, Canolfan Bedwyr > > Email: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > Phone: +44 (0)1248 382800 > > Bangor University, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG > > Image removed by sender. > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter-16.png@BangorUni > <https://twitter.com/BangorUni> Image removed by sender. > http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/facebook-16.png/BangorUniversity > <https://www.facebook.com/BangorUniversity> > > *Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565* > > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith > a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i > chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir > ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn > unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid > yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw > atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn > wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y > neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr > awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. > > This email and any attachments may contain confidential material and > is solely for the use of the intended recipient(s). If you have > received this email in error, please notify the sender immediately and > delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must > not use, retain or disclose any information contained in this email. > Any views or opinions are solely those of the sender and do not > necessarily represent those of Bangor University. Bangor University > does not guarantee that this email or any attachments are free from > viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the > text of the email, this email is not intended to form a binding > contract - a list of authorised signatories is available from the > Bangor University Finance Office. > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> > Version: 2016.0.7294 / Virus Database: 4489/11382 - Release Date: 01/12/16 >