Print

Print


Pnawn da!
Wrthi'n cyfieithu holiadur ac mae cwestiwn yn gofyn yr opsiynau yma:

Ydych chi'n ystyried eich hyn yn un o'r categorïau hyn:

FTM/trans man */FTM / traws ddyn/*
MTF/trans woman /*MTF / traws ddynes*/
Intersex person */Person rhyngrywiol/*
androgyne / polygender / genderqueer /*androgyn / amlryweddol / 
genderqueer*/
cross-dressing / transvestite person */Person traws-wisgol/*
other gender variant person */Person o rywedd wahanol


/*Dwi wedi cael hyd i rintersex, androgyne a transvestite yn y gwahanol 
eiriaduron ar-lein hyd yn hyn, ond ymddengys nad oes Cymraeg am 
genderqueer ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae GyA yn cynnig traws-wisgol 
am transvestite ond dim ar gyfer cross-dressing person. Gyda'r opsiwn 
olaf, amrywiolyn a gynigir am variant - felly a oes angen y 'person'?

Mae angen y gwaith yma nôl gyda'r cwsmer cyn 7 heno!

Diolch,
Dafydd


---
This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
https://www.avast.com/antivirus