Print

Print


This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg


Gall Excel fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gwneud a chadw rhestrau archifau, yn enwedig ar gyfer casgliadau mawr nad oes trefn arnynt; mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer golygu a thrawsffurfio data ac ar lefel sylfaenol mae’n hygyrch ac yn hawdd ei ddefnyddio (gan wirfoddolwyr, er enghraifft).

Mae’r gweithdy undydd ymarferol hwn yn ddelfrydol ar gyfer archifyddion sydd eisoes ag ychydig o wybodaeth am Excel. Mae’n archwilio gallu Excel i ddelio â thestun; rhywbeth nad yw’n rhan o gyrsiau hyfforddiant Excel cyffredin. Hefyd, mae’n ffocysu ar ddefnyddio Excel i greu rhestrau ar gyfer casgliadau mawr neu i baratoi catalogau a fydd yna’n cael eu trosglwyddo i systemau eraill.

Mae’r ymarferion yn defnyddio rhestrau archifau go iawn ac mae’r hyfforddwraig, Gillian Sheldrick, yn archifydd profiadol ac yn frwd o blaid Excel – mae hi wedi gwneud defnydd mawr ohono ac yn awyddus i drosglwyddo ei gwybodaeth. Ar hyn o bryd, mae hi’n gatalogydd llawrydd, ac yn flaenorol mae hi wedi rheoli rhaglenni catalogio yn English Heritage a Hertfordshire Archives.


Os hoffech chi fynychu’r hyfforddiant hwn, rhowch wybod i mi drwy ddarparu’r manylion canlynol erbyn 08 Chwefror 2016 fan bellach:
•       Enw
•       Teitl eich swydd
•       Eich cyfeiriad e-bost (os yw’n wahanol i’r un yr ydych yn ei ddefnyddio i anfon y neges)
•       Sefydliad (nid y rhiant-sefydliad)
•       Rhif ffôn uniongyrchol
•       Eich dewis leoliad (y Gogledd, y De, neu’r Canolbarth)



_______________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

Excel can be a valuable tool for listing archives, especially large and disordered collections; it is a powerful tool for editing and transforming data and at a basic level it is accessible and easy to use (for example by volunteers).

This one-day practical Workshop is aimed at archivists with prior knowledge of Excel. They explore the powerful functionality available for working with text, not usually covered in generic Excel training courses, and focus on using Excel to list large collections or to prepare catalogues ready for export into other systems.
The practical exercises are based on genuine archive lists and catalogues and the trainer, Gillian Sheldrick, is an experienced archivist and Excel enthusiast who has used the concepts and techniques studied. She currently works as a freelance cataloguer, and has previously managed the archives cataloguing programmes at English Heritage and at Hertfordshire Archives.


If you would like to attend this training advise me by providing the following details no later than 08th February 2016:
•       Name
•       Job title
•       Individual Email address (if not the same as that you are responding from)
•       Organisation (not the parent body)
•       Direct telephone number
•       Preferred location (north, south or mid Wales)



Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Department for Economy, Science and Transport
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261






On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free.  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.  Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.