Print

Print


Cytuno. Hyd yn oed os ydi'n hwy neu'n glogyrnaidd, mae gofyn cystrawen
eglur. Sut basa *y gallant, ac y gallant yn unig, > **y gallant, a gallu yn
y modd hwnnw'n unig, *? ne rwbath felly?

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2015-12-04 15:35 GMT+01:00 Wyn Hobson, Translator <[log in to unmask]>:

> Cytuno. Ac fel man cychwyn ar gyfer canfod rhywbeth gwell, beth am y
> canlynol? —
>
>
>
> *Bydd gan y person anghenion sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra os bydd
> asesiad yn sefydlu y gall oresgyn rhwystrau yn erbyn cyflawni’r canlyniadau
> llesiant a ddymunir os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a
> chymorth i’r person (neu i ofalwr), a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni —
> ac mai dim ond os bydd yr awdurdod lleol yn gwneud hynny y gall y person
> gyflawni’r canlyniadau llesiant*.
>
>
>
> Wyn
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Carolyn
> Iorwerth
> *Sent:* 04 December 2015 14:17
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* ATB/RE: can and can only
>
>
>
> Dw i’n gweld ‘y gallant yn unig’ yn rhyfedd braidd – teimlo bod angen
> cystrawen bwysleisiol gydag ‘unig’ .
>
> Carolyn
>
>
>
> *Oddi wrth:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]
> <[log in to unmask]>] *Ar ran/On Behalf Of *Claire
> Richards
> *Anfonwyd:* 4 Rhagfyr 2015 13:11
> *At:* [log in to unmask]
> *Pwnc:* Re: can and can only
>
>
>
> Yn wir, ar ôl chwilio ymhellach, dwi wedi dod o hyd i hyn mewn dogfen gan
> Lywodraeth Cymru
>
>
>
> “The eligibility test flows naturally from an assessment and follows a
> simple test as follows:
>
> *The person has needs which meet the eligibility criteria if an assessment
> establishes that they can, and can only, overcome barriers to achieving
> their well-being outcomes by the local authority preparing a care and
> support plan (or a support plan for a carer), and ensuring that it is
> delivered. *
>
> This has come to be known as the ‘Can and Can Only’ test. “
>
>
>
> “Mae'r prawf cymhwystra'n deillio'n naturiol o asesiad ac mae'n dilyn
> prawf syml fel a ganlyn:
>
> *Bydd gan y person anghenion sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra os bydd
> asesiad yn sefydlu y gallant, ac y gallant yn unig, oresgyn rhwystrau i
> gyflawni eu canlyniadau llesiant os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi
> cynllun gofal a chymorth iddynt (neu gynllun cymorth i ofalwr), a sicrhau
> ei fod yn cael ei gyflawni*.
>
> Mae hwn wedi dod i gael ei alw yn brawf ‘Gallu, a Gallu yn Unig’ (‘Can and
> Can Only’ test).”
>
>
>