Cytuno. Ac fel man cychwyn ar gyfer canfod rhywbeth gwell, beth am y canlynol? —

 

Bydd gan y person anghenion sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra os bydd asesiad yn sefydlu y gall oresgyn rhwystrau yn erbyn cyflawni’r canlyniadau llesiant a ddymunir os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a chymorth i’r person (neu i ofalwr), a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni — ac mai dim ond os bydd yr awdurdod lleol yn gwneud hynny y gall y person gyflawni’r canlyniadau llesiant.

 

Wyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 04 December 2015 14:17
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: can and can only

 

Dw i’n gweld ‘y gallant yn unig’ yn rhyfedd braidd – teimlo bod angen cystrawen bwysleisiol gydag ‘unig’ .

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: 4 Rhagfyr 2015 13:11
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: can and can only

 

Yn wir, ar ôl chwilio ymhellach, dwi wedi dod o hyd i hyn mewn dogfen gan Lywodraeth Cymru

 

“The eligibility test flows naturally from an assessment and follows a simple test as follows:

The person has needs which meet the eligibility criteria if an assessment establishes that they can, and can only, overcome barriers to achieving their well-being outcomes by the local authority preparing a care and support plan (or a support plan for a carer), and ensuring that it is delivered.

This has come to be known as the ‘Can and Can Only’ test. “

 

“Mae'r prawf cymhwystra'n deillio'n naturiol o asesiad ac mae'n dilyn prawf syml fel a ganlyn:

Bydd gan y person anghenion sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra os bydd asesiad yn sefydlu y gallant, ac y gallant yn unig, oresgyn rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau llesiant os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a chymorth iddynt (neu gynllun cymorth i ofalwr), a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni.

Mae hwn wedi dod i gael ei alw yn brawf ‘Gallu, a Gallu yn Unig’ (‘Can and Can Only’ test).”