Cytuno. Ac fel man cychwyn ar gyfer canfod rhywbeth gwell, beth am y canlynol? — Bydd gan y person anghenion sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra os bydd asesiad yn sefydlu y gall oresgyn rhwystrau yn erbyn cyflawni’r canlyniadau llesiant a ddymunir os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a chymorth i’r person (neu i ofalwr), a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni — ac mai dim ond os bydd yr awdurdod lleol yn gwneud hynny y gall y person gyflawni’r canlyniadau llesiant. Wyn From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth Sent: 04 December 2015 14:17 To: [log in to unmask] Subject: ATB/RE: can and can only Dw i’n gweld ‘y gallant yn unig’ yn rhyfedd braidd – teimlo bod angen cystrawen bwysleisiol gydag ‘unig’ . Carolyn Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards Anfonwyd: 4 Rhagfyr 2015 13:11 At: [log in to unmask] Pwnc: Re: can and can only Yn wir, ar ôl chwilio ymhellach, dwi wedi dod o hyd i hyn mewn dogfen gan Lywodraeth Cymru “The eligibility test flows naturally from an assessment and follows a simple test as follows: The person has needs which meet the eligibility criteria if an assessment establishes that they can, and can only, overcome barriers to achieving their well-being outcomes by the local authority preparing a care and support plan (or a support plan for a carer), and ensuring that it is delivered. This has come to be known as the ‘Can and Can Only’ test. “ “Mae'r prawf cymhwystra'n deillio'n naturiol o asesiad ac mae'n dilyn prawf syml fel a ganlyn: Bydd gan y person anghenion sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra os bydd asesiad yn sefydlu y gallant, ac y gallant yn unig, oresgyn rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau llesiant os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a chymorth iddynt (neu gynllun cymorth i ofalwr), a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni. Mae hwn wedi dod i gael ei alw yn brawf ‘Gallu, a Gallu yn Unig’ (‘Can and Can Only’ test).”