Print

Print


Dw i ddim yn meddwl, Geraint, fod fawr o ddadlau ynghylch defnyddio 'sy
ddim' yn lle 'nad ydynt' ond y cwestiwn yw a ydy 'sy ddim yn helpu' yn iawn
neu a ddylid defnyddio rhyw derm gwneud fel 'meddyliau difudd' gan gredu
bod hynny'n mynd i fod yn fwy clir i Gymry Cymraeg na 'sy ddim yn helpu'.
Rwyf eisoes wedi esbonio pa derm rwyf wedi defnyddio gyda seicolegydd (sy
ddim yn helpu) ac felly byddwn i'n awgrymu cadw at y ffordd symlaf.


2015-12-16 12:23 GMT+00:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]
>:

> Dwi'n meddwl mai "sy ddim yn helpu" fyddai orau i Gymry Cymraeg yn
> gyffredinol a thestun hawdd ei ddeall. Fedra'i ddim dychmygu neb yn dweud
> "meddyliau nad ydynt yn helpu" mewn unrhyw amgylchiad, â deud y gwir. Nid
> sgwennu llenyddiaeth ydan ni fan hyn, ond cyfathrebu'n uniongyrchol.
>
>
> On 16/12/2015 11:43, Eluned Mai wrote:
>
> Ai sôn am y llafar yr ydych chi yma?  Dwi'n meddwl bod natur testun
> ysgrifenedig weithiau'n gorfod bod yn wahanol a'i fod yn dibynnu ar y
> cyd-destun a'r gynulleidfa.  Efallai y dylid cael dau derm gwahanol - un ar
> gyfer Cymry Cymraeg yn gyffredinol ac un arall sy'n syml iawn ar gyfer
> testun Hawdd ei Ddeall.  Mae'n amhosibl cael term sy'n berffaith i bawb gan
> fod arlliw o wahaniaeth ystyr ynghlwm wrth eiriau i wahanol unigolion
> oherwydd profiad perthnasol personol unigolion o'r geiriau hynny.  Mae'n
> anodd - ond dim ond wrth drafod ag amrediad o bobl berthnasol y down ni o
> hyd i rywbeth sy'n gweithio.  Yhh - ac mae Dolig yn dwad!  :)
>
>
> 2015-12-16 2:43 GMT+00:00 Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]>
> :
>
>> Os yw 'nad ydynt' yn rhy hen ffasiwn beth am 'sy ddim yn helpu' - byddai
>> hynny'n gwneud y tro.
>>
>> Byddaf i'n gofyn i'm seiciatrydd y tro nesaf y gwelaf i ef (o bosibl
>> ymhen mis) a gofynnaf i i Rhian ofyn i wraig ei chefnder sy'n seicolegydd
>> beth byddai hi'n ei ddweud ond rwy'n credu'n fawr iawn mae 'sy ddim yn
>> helpu' fydd yr ateb gan y ddau ohynynt (ac rwy'n gwybod mai 'sy ddim yn
>> helpu' oedd yn geiriad ddefnyddiodd y seicolegydd wrthyf i y tro diwethaf
>> inni siarad a'n gilydd).
>>
>>
>> 2015-12-15 14:17 GMT+00:00 Ann Corkett < <[log in to unmask]>
>> [log in to unmask]>:
>>
>>> Call yw mynd am rywbeth syml iawn, ond ydy hyn yn golygu bod y gystrawen
>>> "nad ydynt" yn rhy hen ffasiwn ar gyfer *pob* cyd-destun?
>>>
>>> Ann
>>>
>>>
>>> On 14/12/2015 09:41, Saunders, Tim wrote:
>>>
>>> A dyma ti wedi cynnig sylw sydd wir yn helpu! Diolch o galon. ‘Meddyliau
>>> sy’n helpu’, a ‘meddyliau sy ddim yn helpu’, amdani, felly, yn syth o lygad
>>> y ffynnon fel petai.
>>>
>>>
>>>
>>> Yn iach,
>>>
>>>
>>>
>>> Tim
>>>
>>>
>>>
>>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>>> vocabulary [ <[log in to unmask]>
>>> mailto:[log in to unmask]
>>> <[log in to unmask]>] *Ar ran/On Behalf Of *Muiris Mag
>>> Ualghairg
>>> *Sent:* 12 December 2015 05:14
>>> *To:* <[log in to unmask]>
>>> [log in to unmask]
>>> *Subject:* Re: Unhelpful thoughts
>>>
>>>
>>>
>>> Rwyf wedi bod yn pendroni dros hyn ac rwy'n meddwl mai'r cyfieithiad
>>> symlaf (mewn Cymraeg ysgrifnedig) sef 'meddyliau nad ydynt yn helpu'
>>> fyddai'r cyfieithiad gorau. Yn CBT mae'r geiriau 'help' a 'helpu' yn bwysig
>>> iawn ac rwy'n credu y dylid cadw'r elfen 'help' yn y cyfieithiad er mwyn
>>> cadw at ergyd CBT (a chymorth tebyg) sy'n rhoi cymaint o bwyslais ar
>>> 'helpu'.
>>>
>>> Rwy'n fodlon dweud fy mod innau wedi gweld seiciatrydd yn y gorffennol
>>> (a hynny yn Gymraeg) a 'helpu' oedd y gair a ddefnyddiwd nid 'di-fudd' neu
>>> air, cadwyd at Gymraeg syml a chlir ' meddyliau sy ddim yn helpu' - a bu
>>> son hefyd am 'feddyliau sy'n helpu gyda'r sefyllfa' a geiriadau tebyg felly
>>> petawn ni i ddefnyddio 'di-fudd' sut byddem yn cadw'r gwrthgyferbyniad rhwng
>>>
>>> Helpful thoughts - meddyliau sy'n helpu
>>>
>>> Unhelpful thoughts - meddyliau difudd?
>>>
>>>
>>> Os edrychwch chi ar y tudalen yma a gweld sawl gwaith y mae'r gair
>>> helpu'n cael ei ddefnyddio, fe ddeellwch bwysigrwydd cadw'r gair 'help' neu
>>> 'helpu'
>>>
>>> http://www.mental-health-matters.org.uk/page115.html
>>>
>>> I weld cyfeiriadau at 'helpful thoughts' edrychwch ar
>>>
>>>
>>> http://www.anxietybc.com/parents/new-moms/thinking-flexibly/consider-more-helpful-thoughts
>>>
>>> http://anxietynetwork.com/content/coping-statements-anxiety
>>>
>>>
>>>
>>> 2015-12-10 12:30 GMT+00:00 Geraint Lovgreen <
>>> [log in to unmask]>:
>>>
>>> Dwi'n meddwl ein bod yn deall hynny, ond dwi'n meddwl bod 'meddyliau
>>> di-les' yn derm iawn i ddisgrifio'r meddyliau anghymwynasgar hynny. Mater o
>>> farn ydi hyn wrth gwrs, ond mae'r un peth yn wir yn unrhyw iaith. Gallai
>>> rhywun ddadlau bod ysu am ddyfodiad 5 o'r gloch yn "unhelpful thought" yn
>>> Saesneg hefyd - mae'r term yn cael ei ddefnyddio i olygu'r hyn y mae'r
>>> defnyddiwr eisiau iddo olygu.
>>>
>>> Geraint
>>>
>>>
>>>
>>> On 10/12/2015 12:21, Cyfieithydd Achlysurol wrote:
>>>
>>> Ystyr 'unhelpful' yn y cyswllt yma fel arfer yw meddyliau am
>>> hunanladdiad, hunan-niweidio, meddwl nad wyt ti'n ddigon da neu ddim yn
>>> haeddu rhywbeth (S.  Impostor Syndrome) ac ati.  Mae Claire yn llygad ei
>>> lle; mae'n golygu llawer mwy na dim ond ysu am i bump o'r gloch frysio dod
>>> neu syllu trwy'r ffenest mewn cyfarfod yn lle talu sylw i'r hyn sy'n
>>> digwydd, er mor ddi-fudd y gall y rhain fod.
>>>
>>> O'm mhrofiad i, nid yr un peth yw'r niwl llwyd a'r meddyliau
>>> anghymwynasgar; mae'r niwl llwyd yn fy rhwystro rhag meddwl yn glir ond
>>> mae'r meddyliau anghymwynasgar yn peri i mi feddwl y gwaethaf am bob
>>> sefyllfa (beth petawn i'n baglu ac yn cwympo o dan y lori sy'n dod tuag ata
>>> i, beth petawn i'n cwympo i'r cledrau mewn gorsaf drenau - y fath yna o
>>> beth).
>>>
>>> On 7 Dec 2015 13:11, "Emily Hammett" < <[log in to unmask]>
>>> [log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Helo bawb
>>>
>>> Mae'r term uchod yn fwyfwy cyffredin ym maes iechyd meddwl. Sawl opsiwn
>>> o ran ei gyfieithu ond byddai'n braf cael eich barn chi.
>>>
>>> Diolch
>>> Emily
>>>
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
>>> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
>>> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
>>> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
>>> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
>>> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be
>>> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant
>>> legislation
>>>
>>> For the full disclaimer please access
>>> <http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer>http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>>>
>>>
>>>
>>> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
>>> sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin
>>> yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
>>> awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio
>>> neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges
>>> ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae
>>> modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
>>> berthnasol.
>>>
>>> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://
>>> <http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad>www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
>>>
>>> No virus found in this message.
>>> Checked by AVG - <http://www.avg.com>www.avg.com
>>> Version: 2016.0.7294 / Virus Database: 4483/11175 - Release Date:
>>> 12/14/15
>>>
>>>
>>>
>>
>
>