Dwi ddim yn gyfarwydd ag enw Cymraeg. Cofier mai o ‘winding’ yn golygu ‘troellog’ yn hytrach na dim i’w wneud â gwynt y mae enw’r stryd yn deillio (ac na ddylid byth ddefnyddio Stryd y Gwynt amdano).
Ar lafar, mae pobl yr ardal wedi ailfedyddio’r stryd yn ‘Wine Street’ bellach, am fod cymaint o yfed yn digwydd yno! Ond dwi ddim yn meddwl fod Stryd y Gwin yn addas chwaith!