Teimladau cryfion (fel sydd wedi'i drafod droeon yma yn y cylch) ynghylch defnyddio unrhyw acronym. Naill ai sgwennu'r enw'n llawn y tro cynta, wedyn rhan ohono, neu ryw ystryw arall. Dydi acronymau ddim yn gweithio yn Gymraeg. Mae gormod ohonyn nhw'r un fath (ar un adeg Cyngor Celfyddydau Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru), neu maen nhw'n angyfarwydd, neu maen nhw'n an-ddeudadwy - e.e. AONB (Areas of Outstanding Natural Beauty) - yn Saesneg gellir eu galw'n Ayowenbees, ond mi ddyffeia i neb i yngan AOHNE, yn yr unigol heb son am y lluosog. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2015-12-10 16:45 GMT+01:00 Cyfieithydd Achlysurol < [log in to unmask]>: > Prynhawn da, gyfeillion > > Mae cleient newydd gysylltu i ofyn ynglŷn â'r acronym BME. Yn fwy > penodol, mae wedi gweld rhyw gorff neu'i gilydd yn defnyddio acronym DLlE > mewn testun Cymraeg ac yn gofyn faint mor gyffredin yw e. > > Fy ngreddf i yw na fyddai llawer o fudd i'w arddel ac na fyddai'r rhan > fwyaf o ddarllenwyr yn ei weld yn fwy na chlwstwr arall o llythrennau > diystyr. Oes rhywrai ohonoch chi wedi ei ddefnyddio? Oes gan rywun > deimladau cryfion o blaid neu yn erbyn ei ddefnyddio? > > Diolch >