Prynhawn da, gyfeillion Mae cleient newydd gysylltu i ofyn ynglŷn â'r acronym BME. Yn fwy penodol, mae wedi gweld rhyw gorff neu'i gilydd yn defnyddio acronym DLlE mewn testun Cymraeg ac yn gofyn faint mor gyffredin yw e. Fy ngreddf i yw na fyddai llawer o fudd i'w arddel ac na fyddai'r rhan fwyaf o ddarllenwyr yn ei weld yn fwy na chlwstwr arall o llythrennau diystyr. Oes rhywrai ohonoch chi wedi ei ddefnyddio? Oes gan rywun deimladau cryfion o blaid neu yn erbyn ei ddefnyddio? Diolch