Ystyr 'unhelpful' yn y cyswllt yma fel arfer yw meddyliau am hunanladdiad, hunan-niweidio, meddwl nad wyt ti'n ddigon da neu ddim yn haeddu rhywbeth (S. Impostor Syndrome) ac ati. Mae Claire yn llygad ei lle; mae'n golygu llawer mwy na dim ond ysu am i bump o'r gloch frysio dod neu syllu trwy'r ffenest mewn cyfarfod yn lle talu sylw i'r hyn sy'n digwydd, er mor ddi-fudd y gall y rhain fod.
O'm mhrofiad i, nid yr un peth yw'r niwl llwyd a'r meddyliau anghymwynasgar; mae'r niwl llwyd yn fy rhwystro rhag meddwl yn glir ond mae'r meddyliau anghymwynasgar yn peri i mi feddwl y gwaethaf am bob sefyllfa (beth petawn i'n baglu ac yn cwympo o dan y lori sy'n dod tuag ata i, beth petawn i'n cwympo i'r cledrau mewn gorsaf drenau - y fath yna o beth).
Helo bawb
Mae'r term uchod yn fwyfwy cyffredin ym maes iechyd meddwl. Sawl opsiwn o ran ei gyfieithu ond byddai'n braf cael eich barn chi.
Diolch
Emily