Ydi, mae hynny’n wir, dw i’n tueddu i roi ‘rhoi benthyg’ a ‘chael benthyg’ os oes amwysedd. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 8 Rhagfyr 2015 15:10 To: [log in to unmask] Subject: Re: Borrowing Powers Mae “benthyg/benthyca” yn gallu bod yn amwys hefyd gan eu bod yn gallu golygu “lend” a “borrow”. Siân On 8 Dec 2015, at 13:56, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > wrote: Mae Term Cymru yn rhoi ‘Pwerau Benthyg’ (statws C) – teimlo bod hyn yn gallu awgrymu ‘Borrowed Powers’ ac mae’n amwys iawn yng nghyd-destun datganoli – fe allai rhywun feddwl mai sôn am bwerau sydd wedi’u benthyg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r rhain yn hytrach na ‘Phwerau i fenthyca arian’. Carolyn