Print

Print


Dylid gofyn i seiciatrydd neu seicolegydd Cymraeg beth fyddai'r term gorau.

Muiris

2015-12-08 11:06 GMT+00:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:

Hyd y gwela i, mae’r term yn codi ym maes CBT, a holl sail y therapi yw bod modd newid ffyrdd o feddwl er mwyn gwella cyflwr meddwl rhywun.  Mae yna bethau sy’n helpu gyda’r broses honno a pethau nad ydynt yn helpu, yn eu mysg ‘unhelpful thoughts’.

 

Wedi chwilio, fe ddefnyddion ni ‘meddyliau nad ydynt yn helpu’, rywdro.

 

Tybed oes rhywun ym Mhrifysgol Bangor wedi dod ar draws neu wedi bathu term?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 08 December 2015 10:00


To: [log in to unmask]
Subject: Re: Unhelpful thoughts

 

helpu i leddfu meddyliau poenus (am stressful) a digalon ?

----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 07/12/2015 - 20:49 (GMTST)
To : [log in to unmask]
Subject : Re: Unhelpful thoughts

Dá i ddim yn swnio'n iawn imi,  ond beth wir gwahaniaeth rhwng y rhain a meddyliau ymwthiol?

On 7 Dec 2015 16:02, "Neil Shadrach" <[log in to unmask]> wrote:
>
> "Mindfulness helped me alleviate stressful and unhelpful thoughts so I can work more effectively and function better"
>
> "Roedd Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi fy helpu i liniaru meddyliau llawn straen a da i ddim, felly gallaf weithio’n fwy effeithiol a gweithredu’n well"
>
> ( https://www.heacademy.ac.uk/sites/default/files/5-3-7_mindfulness_meditation.pdf )
>
> Ar 7 Rhagfyr 2015 am 15:54, Sian Roberts <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
>>
>> Swn i’n dweud bod “meddyliau di-fudd” yn gallu bod yn ddigon dymunol – jest yn wastraff amser.
>>
>> Siân
>>
>>
>>> On 7 Dec 2015, at 14:57, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>>>
>>> Mae 'di-fudd' yn eitha negyddol yn fy marn i.
>>>
>>> On 07/12/2015 14:41, Sian Roberts wrote:
>>>>
>>>> Swn i’n meddwl bod “unhelpful thoughts” yn fwy negyddol na “meddyliau di-fudd” ond alla i ddim meddwl am yr union air chwaith.
>>>>
>>>> http://www.moodjuice.scot.nhs.uk/challengingthoughts.asp
>>>>
>>>> Siân
>>>>
>>>>
>>>>> On 7 Dec 2015, at 13:59, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:
>>>>>
>>>>> 'Meddyliau di-fudd' ddaeth i'm meddwl gyntaf.
>>>>>
>>>>> 2015-12-07 13:01 GMT+00:00 Emily Hammett <[log in to unmask]>:
>>>>>>
>>>>>> Helo bawb
>>>>>>
>>>>>> Mae'r term uchod yn fwyfwy cyffredin ym maes iechyd meddwl. Sawl opsiwn o ran ei gyfieithu ond byddai'n braf cael eich barn chi.
>>>>>>
>>>>>> Diolch
>>>>>> Emily
>>>>>
>>>>>
>>>>
>>>
>>
>