Yn wir, ar ôl chwilio ymhellach, dwi wedi dod o hyd i hyn mewn dogfen gan Lywodraeth Cymru

 

“The eligibility test flows naturally from an assessment and follows a simple test as follows:

The person has needs which meet the eligibility criteria if an assessment establishes that they can, and can only, overcome barriers to achieving their well-being outcomes by the local authority preparing a care and support plan (or a support plan for a carer), and ensuring that it is delivered.

This has come to be known as the ‘Can and Can Only’ test. “

 

“Mae'r prawf cymhwystra'n deillio'n naturiol o asesiad ac mae'n dilyn prawf syml fel a ganlyn:

Bydd gan y person anghenion sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra os bydd asesiad yn sefydlu y gallant, ac y gallant yn unig, oresgyn rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau llesiant os bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a chymorth iddynt (neu gynllun cymorth i ofalwr), a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni.

Mae hwn wedi dod i gael ei alw yn brawf ‘Gallu, a Gallu yn Unig’ (‘Can and Can Only’ test).”

 

Ar wahân i’r ffaith y defnyddir ffurf luosog y ferf gyda goddrych unigol...  Yn y darn uchod mae’r gair ‘can’ yn cyfeirio ar yr unigolyn a’i allu i oresgyn rhwystrau, ond yn y darn sydd gen i, mae’n cyfeirio at anghenion a sut mae modd eu diwallu.

 

Mae’n bnawn Gwener ac mae ’mhen i’n dechrau brifo.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 04 December 2015 13:04
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: can and can only

 

Siŵr o ofod rhywbeth ar wefannau’r Cynulliad neu’r Llywodraeth.

 

Yn iach,

 

Tim

 

O.N. Neu’r ddau, o bosibl.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
Sent: 04 December 2015 12:57
To: [log in to unmask]
Subject: Re: can and can only

 

Ifa gofyn i Wasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad fyddai'r man cychwyn?

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 04 Rhagfyr 2015 12:48
To: [log in to unmask]
Subject: can and can only

 

Bydd yr ymadrodd hwn yn codi mwyfwy yn y dyfodol yn sgil Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Mae esboniad gan wasanaeth ymchwil y Cynulliad fel a ganlyn

The principle is that an assessment will look at the individual’s circumstances, and judge whether the person’s needs and wellbeing outcomes ‘can and can only’ be met by the delivery of a care and support plan provided or arranged by the local authority. Therefore if the assessment determines that the individual’s needs and wellbeing outcomes could be met by the person themselves, their family or carer, or anyone else; by services available in their community, or by any other means, then they would not be eligible for personalised statutory care and support.”

 

Beth yw’r ffordd orau o gyfleu hyn?

 

Y paragraff sydd gen i yw “Under the new criteria, people will be eligible for a care and support package if their needs ‘can and can only’ be met by social services intervention.”

 

Gyda llaw, mae hyn wedi arwain at ddefnyddio’r term ‘can and can only test’ – mae 18,000 o enghreifftiau ohono ar y we eisoes.

 

Claire

 

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.

 

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad