A dyma ti wedi cynnig sylw sydd wir yn helpu! Diolch o galon. ‘Meddyliau sy’n helpu’, a ‘meddyliau sy ddim yn helpu’, amdani, felly, yn syth o lygad y ffynnon fel petai.

 

Yn iach,

 

Tim

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Sent: 12 December 2015 05:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Unhelpful thoughts

 

Rwyf wedi bod yn pendroni dros hyn ac rwy'n meddwl mai'r cyfieithiad symlaf (mewn Cymraeg ysgrifnedig) sef 'meddyliau nad ydynt yn helpu' fyddai'r cyfieithiad gorau. Yn CBT mae'r geiriau 'help' a 'helpu' yn bwysig iawn ac rwy'n credu y dylid cadw'r elfen 'help' yn y cyfieithiad er mwyn cadw at ergyd CBT (a chymorth tebyg) sy'n rhoi cymaint o bwyslais ar 'helpu'. 

Rwy'n fodlon dweud fy mod innau wedi gweld seiciatrydd yn y gorffennol (a hynny yn Gymraeg) a 'helpu' oedd y gair a ddefnyddiwd nid 'di-fudd' neu air, cadwyd at Gymraeg syml a chlir ' meddyliau sy ddim yn helpu' - a bu son hefyd am 'feddyliau sy'n helpu gyda'r sefyllfa' a geiriadau tebyg felly petawn ni i ddefnyddio 'di-fudd' sut byddem yn cadw'r gwrthgyferbyniad rhwng

Helpful thoughts - meddyliau sy'n helpu

Unhelpful thoughts - meddyliau difudd? 


Os edrychwch chi ar y tudalen yma a gweld sawl gwaith y mae'r gair helpu'n cael ei ddefnyddio, fe ddeellwch bwysigrwydd cadw'r gair 'help' neu 'helpu'

http://www.mental-health-matters.org.uk/page115.html

I weld cyfeiriadau at 'helpful thoughts' edrychwch ar 

http://www.anxietybc.com/parents/new-moms/thinking-flexibly/consider-more-helpful-thoughts

http://anxietynetwork.com/content/coping-statements-anxiety

 

2015-12-10 12:30 GMT+00:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:

Dwi'n meddwl ein bod yn deall hynny, ond dwi'n meddwl bod 'meddyliau di-les' yn derm iawn i ddisgrifio'r meddyliau anghymwynasgar hynny. Mater o farn ydi hyn wrth gwrs, ond mae'r un peth yn wir yn unrhyw iaith. Gallai rhywun ddadlau bod ysu am ddyfodiad 5 o'r gloch yn "unhelpful thought" yn Saesneg hefyd - mae'r term yn cael ei ddefnyddio i olygu'r hyn y mae'r defnyddiwr eisiau iddo olygu.

Geraint

 

On 10/12/2015 12:21, Cyfieithydd Achlysurol wrote:

Ystyr 'unhelpful' yn y cyswllt yma fel arfer yw meddyliau am hunanladdiad, hunan-niweidio, meddwl nad wyt ti'n ddigon da neu ddim yn haeddu rhywbeth (S.  Impostor Syndrome) ac ati.  Mae Claire yn llygad ei lle; mae'n golygu llawer mwy na dim ond ysu am i bump o'r gloch frysio dod neu syllu trwy'r ffenest mewn cyfarfod yn lle talu sylw i'r hyn sy'n digwydd, er mor ddi-fudd y gall y rhain fod.

O'm mhrofiad i, nid yr un peth yw'r niwl llwyd a'r meddyliau anghymwynasgar; mae'r niwl llwyd yn fy rhwystro rhag meddwl yn glir ond mae'r meddyliau anghymwynasgar yn peri i mi feddwl y gwaethaf am bob sefyllfa (beth petawn i'n baglu ac yn cwympo o dan y lori sy'n dod tuag ata i, beth petawn i'n cwympo i'r cledrau mewn gorsaf drenau - y fath yna o beth).

On 7 Dec 2015 13:11, "Emily Hammett" <[log in to unmask]> wrote:

Helo bawb

Mae'r term uchod yn fwyfwy cyffredin ym maes iechyd meddwl. Sawl opsiwn o ran ei gyfieithu ond byddai'n braf cael eich barn chi.

Diolch
Emily

 

 

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad