Call yw mynd am rywbeth syml iawn, ond ydy hyn yn golygu bod y gystrawen "nad ydynt" yn rhy hen ffasiwn ar gyfer *pob* cyd-destun? Ann On 14/12/2015 09:41, Saunders, Tim wrote: > > A dyma ti wedi cynnig sylw sydd wir yn helpu! Diolch o galon. > ‘Meddyliau sy’n helpu’, a ‘meddyliau sy ddim yn helpu’, amdani, felly, > yn syth o lygad y ffynnon fel petai. > > Yn iach, > > Tim > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On > Behalf Of *Muiris Mag Ualghairg > *Sent:* 12 December 2015 05:14 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Unhelpful thoughts > > Rwyf wedi bod yn pendroni dros hyn ac rwy'n meddwl mai'r cyfieithiad > symlaf (mewn Cymraeg ysgrifnedig) sef 'meddyliau nad ydynt yn helpu' > fyddai'r cyfieithiad gorau. Yn CBT mae'r geiriau 'help' a 'helpu' yn > bwysig iawn ac rwy'n credu y dylid cadw'r elfen 'help' yn y > cyfieithiad er mwyn cadw at ergyd CBT (a chymorth tebyg) sy'n rhoi > cymaint o bwyslais ar 'helpu'. > > Rwy'n fodlon dweud fy mod innau wedi gweld seiciatrydd yn y gorffennol > (a hynny yn Gymraeg) a 'helpu' oedd y gair a ddefnyddiwd nid 'di-fudd' > neu air, cadwyd at Gymraeg syml a chlir ' meddyliau sy ddim yn helpu' > - a bu son hefyd am 'feddyliau sy'n helpu gyda'r sefyllfa' a geiriadau > tebyg felly petawn ni i ddefnyddio 'di-fudd' sut byddem yn cadw'r > gwrthgyferbyniad rhwng > > Helpful thoughts - meddyliau sy'n helpu > > Unhelpful thoughts - meddyliau difudd? > > > Os edrychwch chi ar y tudalen yma a gweld sawl gwaith y mae'r gair > helpu'n cael ei ddefnyddio, fe ddeellwch bwysigrwydd cadw'r gair > 'help' neu 'helpu' > > http://www.mental-health-matters.org.uk/page115.html > > I weld cyfeiriadau at 'helpful thoughts' edrychwch ar > > http://www.anxietybc.com/parents/new-moms/thinking-flexibly/consider-more-helpful-thoughts > > http://anxietynetwork.com/content/coping-statements-anxiety > > 2015-12-10 12:30 GMT+00:00 Geraint Lovgreen > <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>>: > > Dwi'n meddwl ein bod yn deall hynny, ond dwi'n meddwl bod 'meddyliau > di-les' yn derm iawn i ddisgrifio'r meddyliau anghymwynasgar hynny. > Mater o farn ydi hyn wrth gwrs, ond mae'r un peth yn wir yn unrhyw > iaith. Gallai rhywun ddadlau bod ysu am ddyfodiad 5 o'r gloch yn > "unhelpful thought" yn Saesneg hefyd - mae'r term yn cael ei > ddefnyddio i olygu'r hyn y mae'r defnyddiwr eisiau iddo olygu. > > Geraint > > On 10/12/2015 12:21, Cyfieithydd Achlysurol wrote: > > Ystyr 'unhelpful' yn y cyswllt yma fel arfer yw meddyliau am > hunanladdiad, hunan-niweidio, meddwl nad wyt ti'n ddigon da neu > ddim yn haeddu rhywbeth (S. Impostor Syndrome) ac ati. Mae > Claire yn llygad ei lle; mae'n golygu llawer mwy na dim ond ysu am > i bump o'r gloch frysio dod neu syllu trwy'r ffenest mewn cyfarfod > yn lle talu sylw i'r hyn sy'n digwydd, er mor ddi-fudd y gall y > rhain fod. > > O'm mhrofiad i, nid yr un peth yw'r niwl llwyd a'r meddyliau > anghymwynasgar; mae'r niwl llwyd yn fy rhwystro rhag meddwl yn > glir ond mae'r meddyliau anghymwynasgar yn peri i mi feddwl y > gwaethaf am bob sefyllfa (beth petawn i'n baglu ac yn cwympo o dan > y lori sy'n dod tuag ata i, beth petawn i'n cwympo i'r cledrau > mewn gorsaf drenau - y fath yna o beth). > > On 7 Dec 2015 13:11, "Emily Hammett" <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > Helo bawb > > Mae'r term uchod yn fwyfwy cyffredin ym maes iechyd meddwl. Sawl > opsiwn o ran ei gyfieithu ond byddai'n braf cael eich barn chi. > > Diolch > Emily > > This transmission is intended for the named addressee(s) only and may > contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and > should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or > authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use > it, or disclose it to anyone else. If you have received this > transmission in error please notify the sender immediately. All > traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring > in accordance with relevant legislation > > For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer > > Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys > deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a > dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os > nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch > chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os > ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi > anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl > negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. > > I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad > <http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad> > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> > Version: 2016.0.7294 / Virus Database: 4483/11175 - Release Date: 12/14/15 >