Diolch yn fawr Megan!  Mae hwn yn lle da i ychwanegu llyfrau perthnasol ato, 'tydy!  Efallai byddai CCC yn fodlon i bobl gyfrannu teitlau llyfrau perthnasol trwyddyn nhw.

2015-10-05 20:20 GMT+01:00 megan tomos <[log in to unmask]>:
Cofiwch am y llyfryddiaeth sydd ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru!
----Original message----
From : [log in to unmask]
Date : 05/10/2015 - 14:42 (GMTDT)
To : [log in to unmask]

Subject : Re: straw that broke the camel's back


2015-10-03 16:48 GMT+01:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
Diolch yn fawr Ann!  Mi fuaswn i wrth fy modd taswn i ond yn gallu dianc.  Gwaetha'r modd, dwi'n sownd yng Nghaerdydd - dim llawer o obaith dianc i'r Gogledd yr wythnos nesa.

2015-10-02 23:18 GMT+01:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
Cofiwch y cynhelir Ffair Lyfrau Porthaethwy yn Ysgol David Hughes o 10am-4pm ddydd Sadwrn, 10 Hydref.  Yr union le i gael llyfrau cyfeiriadol fel hyn - yn arbennig os rhowch wybod imi ymlaen llaw fel y gallaf ofyn i lyfrwerthwyr eraill ddod a'u copiau.

Ann


On 02/10/2015 22:03, Eluned Mai wrote:
A diolch o galon Dewi!  Efallai dylen ni neilltuo rhyw fan o fewn yr archif lle gall pobl ddatblygu rhestr o lyfrau/ffynonellau da a buddiol y gallwn ni bori trwyddyn nhw.  Dwi'n siŵr bod cant a mil o lyfrau difyr, buddiol allan yna nad ydyn nhw byth yn t'wllu silffoedd y siopau....neu sydd efallai allan o brint, wrth gwrs, ond efallai ar gael rhyw fodd drwy'r llyfrgelloedd.

2015-10-02 19:15 GMT+01:00 Dewi Williams <[log in to unmask]>:
Mae Gwerin-Eiriau Sir Gaernarfon, Myrddin Fardd, 1907, yn cynnig ambell esboniad yn yr ail ran.
Mae nodiadau gwerthfawr gan Bruce Griffiths yn argraffiad 1979 o'r un llyfr.
Gw. hefyd Pennod XI. 'Geririau, Diarhebion, a Dywediadau' yn Llên Gwerin Sir Gaernarfon, Myrddin Fardd, 1908.

Dewi


Date: Fri, 2 Oct 2015 18:43:15 +0100
From: [log in to unmask]

Subject: Re: straw that broke the camel's back
To: [log in to unmask]

Llyfr C P Cule ('Idiomau'r Gymraeg' ?) yn ffynhonnell ardderchog am dermau o'r fath.

Rachel

On 2 Oct 2015 4:11 pm, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
Na, do’n i ddim yn tynnu coes o gwbl - mae’n dipyn o lond ceg - yn enwedig heddiw lle nad yw pobl yn gyfarwydd â phennog na phwn!

Hwyl

Siân

On 2 Oct 2015, at 15:44, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:

Tybed oes 'na lyfr sy'n ymdrin â tharddiadau hen ddywediadau Cymraeg neu sy'n dweud rhywbeth o'u hanes!  Debyg bod 'na erthyglau yn 'Llafar Gwlad' ond tybed oes 'na gasgliad. 


2015-10-02 14:13 GMT+01:00 Dewi Williams <[log in to unmask]>:
Yr oedd ein henafiaid yn ofergoelus iawn gyda golwg ar faint o lwyth oedd yn ddigonol ar ôl un ceffyl. Coelient yr hen ddywediad mai “pennog gyda phwn dyrr asgwrn cefn ceffyl.” A rhag syrthio i'r amryfusedd hwn, gofalent bob amser am roddi tri cheffyl o flaen tunnell o lwyth.
   ‘Y Colofnau Cymraeg’, The Amman Valley Chronicle and East Carmarthen News. Thursday, June 19, 1919


Date: Fri, 2 Oct 2015 11:17:09 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: straw that broke the camel's back
To: [log in to unmask]


Cofia di, drwy ymadroddion mae pobl yn dysgu iaith yn aml - ac mi gofia i hwn rwan.  Doeddwn i ddim wedi ei glywed o'r blaen.

Neu ai tynnu fy nghoes i wyt ti!

Eluned

2015-10-02 10:51 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Ydi - hyfryd - ond efallai bod cynnig Geraint yn fwy ymarferol i’w ddefnyddio o ddydd i ddydd!

Siân

On 2 Oct 2015, at 10:45, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:

Hoffi hwnna Anna.

On Thu, Oct 1, 2015 at 3:47 PM, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
GyrA - pennog gyda phwn dyrr asgwrn cefn ceffyl

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2015-10-01 16:19 GMT+02:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:
Pnawn da!

Be fase'r Gymraeg gyfatebol am:

the straw that broke the camel's back  ?

Diolch,
Dafydd



Avast
                                                          logo

This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
www.avast.com









No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.6140 / Virus Database: 4435/10741 - Release Date: 10/02/15