Dwinna wedi bod yn pendroni dros hyn hefyd. Roedd y ddau opsiwn (demensia a dementia) yn arfer bod ar Term Cymru. Bellach dim ond ‘dementia’ sydd yno, ond statws A, sef yr uchaf – gan nodi’n benodol ‘nid demensia’. Mi fyddai’n ddiddorol gwybod felly beth oedd sail penderfyniad y panel safoni termau dros ddewis y sillafiad hwn. Sori – tydi hyn ddim llawer o help i ti Osian dwi’n gwybod! Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys Sent: 05 October 2015 10:14 To: [log in to unmask] Subject: Re: dementia Diolch Aled, Claire a Tim am ymateb. Mae na bobl felly sy'n dweud dementia yn Gymraeg i odli e.e. gyda paentia, oes? Chlywes i neb yn dweud dim byd tebyg. Os oes, iawn, ond fel arall dw i ddim yn gweld rheswm yn y byd dros ei sillafu felly, sut bynnag y daeth y gair aton ni. Oni bai wrth gwrs ein bod yn trio dadlau ein bod yn ei ddefnyddio yn ei iaith wreiddiol mewn testun Cymraeg (fel y gellid rhoi raison d'être mewn italig mewn testun Cymraeg)? Osian Ar 30 Medi 2015 am 11:13, Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd: Mewn ieithoedd eraill mae’r gair wedi datblygu ar hyd yr un llinellau â geiriau eraill sy’n tarddu o eiriau Lladin yn gorffen gydag –entia, er enghraifft yn Ffrangeg mae ‘démence’ yn efelychu patrwm datblygiad hanesyddol ‘clementia’ > ‘clémence’, ‘absentia’ > ‘absence’. Pe baem ni’r Cymry wedi dilyn yr un patrwm, byddai’r gair yn hollol wahanol – rhywbeth fel ‘defen’ neu ‘defin’, o bosibl. Ond dydyn ni ddim, rydyn ni wedi cymryd y gair yn syth o’r Lladin fel ‘dementia’ a ‘t’ yw sain y llythyren yn Gymraeg. Mae pobl yn dweud ‘demensia’ yn Gymraeg gan ei drin fel gair benthyg o’r Saesneg. Os ydyn ni’n derbyn mai gair benthyg o’r Saesneg ac nid o’r Lladin yw e, yna mae ‘demensia’ yn sillafiad digon teg. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Aled Powell Sent: 30 September 2015 10:42 To: [log in to unmask] Subject: Re: dementia Pwynt da a dwi'n falch o'i weld yn codi. Mae'r gair hwn yn gael ei sillafu fel mae'n cael ei ddweud mewn llawer o ieithoedd eraill, boed yn 'demencia', 'demecija', 'demenzja', 'demenzia', 'dementzia', 'demensiya', 'demensia' neu'r cyfatebol mewn gwyddorau eraill. Mae llawer ormod o'r fath benthyg sillafiadau gennym yn y Gymraeg a nifer o enghreifftiau ble mae'r gair neu enw "Cymraeg" hyd yn oed yn cynnwys llythrennau estron fel Q, V a Z. Dwi'n cefnogi'r cais i wybod pam bod y fath sillafiadau yn 'safonol'. Hoffwn weld trafodaeth ehangach ar yr arfer a newid tua bathu sillafiadau mwy synhwyrol. Aled Cyfieithydd / Clerc i'r Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd 01978 315064 _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys [[log in to unmask]] Sent: 29 September 2015 16:53 To: [log in to unmask] Subject: dementia Pnawn da Pam nad demensia ydy'r sillafiad? Dydy dementia yn gwneud dim synnwyr i fi o ystyried ynganiad y gair, neu ydy pobl yn ei ddweud yn wahanol yn Gymraeg? Diolch Osian _____ * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions and other information in this message that do not relate to the official business of Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. .. Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol. * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *