Helo Dafydd,
Dyma gynnig ateb a fydd yn esgor ar atebion eraill, gobeithio, gan rai sy’n deall y maes yn well na fi, ond tybed a oes angen unrhyw
beth rhwng ‘Treth’ a ‘40%’, yn enwedig os ydan ni’n sôn am bennawd colofn gul, dyweder? Os oes angen cysylltair, dwi wedi gweld ‘ar’ yn cael ei ddefnyddio, a hynny mae’n debyg ar batrwm ‘ar
gyfradd’ y ganran dan sylw.
Ga i hefyd gynnig:
Eich taliadau chi
Taliadau’r dyn treth
Taliadau’r cwmni
os ydyn nhw’n gwneud synnwyr yn eu cyd-destun o’u gosod felly (h.y. os oes mwy nag un taliad yn debygol o fod yn ofynnol gan y tri
chategori).
Cofion gorau,
Huw
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 23 Hydref 2015 13:16
To: [log in to unmask]
Subject: at / you pay
Pnawn da!
O ddogfen ynglŷn â phensiynau...
Dau beth...
1. ...tax at 40%
2. blwch esiampl sy'n datgan: You pay / Taxman pays / Company pays ....
Mae 'Dyn treth yn talu' a 'Y cwmni'n talu' yn sowndio'n iawn, ond 'Chi'n talu' braidd yn chwithig, fasech chi'n meddwl, ai peidio?
'Chithau'n talu'?
Diolch,
Dafydd
This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
|