Helo Dafydd, Dyma gynnig ateb a fydd yn esgor ar atebion eraill, gobeithio, gan rai sy’n deall y maes yn well na fi, ond tybed a oes angen unrhyw beth rhwng ‘Treth’ a ‘40%’, yn enwedig os ydan ni’n sôn am bennawd colofn gul, dyweder? Os oes angen cysylltair, dwi wedi gweld ‘ar’ yn cael ei ddefnyddio, a hynny mae’n debyg ar batrwm ‘ar gyfradd’ y ganran dan sylw. Ga i hefyd gynnig: Eich taliadau chi Taliadau’r dyn treth Taliadau’r cwmni os ydyn nhw’n gwneud synnwyr yn eu cyd-destun o’u gosod felly (h.y. os oes mwy nag un taliad yn debygol o fod yn ofynnol gan y tri chategori). Cofion gorau, Huw From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy Sent: 23 Hydref 2015 13:16 To: [log in to unmask] Subject: at / you pay Pnawn da! O ddogfen ynglŷn â phensiynau... Dau beth... 1. ...tax at 40% 2. blwch esiampl sy'n datgan: You pay / Taxman pays / Company pays .... Mae 'Dyn treth yn talu' a 'Y cwmni'n talu' yn sowndio'n iawn, ond 'Chi'n talu' braidd yn chwithig, fasech chi'n meddwl, ai peidio? 'Chithau'n talu'? Diolch, Dafydd ________________________________ [Avast logo]<https://www.avast.com/antivirus> This email has been checked for viruses by Avast antivirus software. www.avast.com<https://www.avast.com/antivirus>