Print

Print


Please scroll down for Welsh

[Description: Description: Description: Description: Description: Description: Description: Description: cid:image001.jpg@01CFC203.57A16880]                      Staff Update 3 – September 2015


Only 1 MONTH TO GO until the start of the 2015 Welsh Museums Festival and still a lot to do!

Have you received your promotional materials?

All museums that ordered promotional packs should have received them by now. If you haven’t please get in touch asap.

We have spares of all the materials e.g. pencils, badges, posters, postcards – so if you do require anymore please let us know! Have you thought about taking a photo of the materials and putting on Facebook/Twitter to start building excitement?

All the materials plus –

  *   Empty belly poster to insert your local event information
  *   Online banners for your website (if you can’t use these please ensure you have Festival logo linking to www.museums.wales/www.amgueddfeydd.cymru<http://www.museums.wales/www.amgueddfeydd.cymru> on your local website/s)
  *   Pop up banner artwork
  *   Logos in various formats & brand guidelines
  *   Hashtag/’I Support’ selfie posters

Can all be found here -
http://welshmuseumsfederation.org/en/news-archive/resources-landing/marketing/welsh-museums-festival.html


Have you checked your museum details and inputted your events on the website?

Take a look at www.museums.wales<http://www.museums.wales> / www.amgueddfeydd.cymru<http://www.amgueddfeydd.cymru>. To update your museum information or add events/images to the What's On listings on the website please follow the staff website instructions -
http://welshmuseumsfederation.org/en/news-archive/resources-landing/marketing/welsh-museums-festival.html

PLEASE INPUT YOUR EVENTS BY 30 SEPTEMBER in order to take advantage of the Festival marketing opportunities.

Please include images to correspond to your events if possible as it really helps with promotion and much more likely to be picked up by the media.

Please note – any events which apply to Museums at Night (30-31 Oct) will automatically be inserted into the Museums at Night database so no need to do this twice (don’t worry if already done both). If you wanted to have a look at the Museums at Night events listing please see - http://museumsatnight.org.uk/events-page/?keywords=&limit=40&region=Wales


Can you offer a photo opportunity?

We are looking for photo opportunities over the next few weeks specifically those that will highlight your events and activities which we can use for media purposes. Obviously the photos will have to be ‘staged’ and it may be a case of roping in some of your existing visitors but if you can think of a good photo opportunity at your museum please get in touch and we can discuss further details. This worked really well for Festival of Museum Scotland and the images were picked up by the media numerous times.

Did you miss the Festival staff workshops?

If so, all the presentations can be found on the Federation website –
http://welshmuseumsfederation.org/en/news-archive/resources-landing/marketing/welsh-museums-festival.html

Thanks to everyone that attended – hope you found it a useful day. Where possible, please share the presentations with your teams and front of house to ensure everyone is fully informed about the Festival from a local and national point of view.

Have you seen the social media staff pack?

This pack (on the Federation website-use link above) has information and tips on getting involved on social media plus suggested themes to help you plan and create fun and engaging content for the Festival.

Top Tips

  *   Share the staff pack with all staff and discuss content ideas now!
  *   Include the Festival hashtag in all tweets - #welshmuseumsfest / #gwylamgueddfeydd
  *   Photographs in your social media posts mean that your posts will gain a larger reach.  Start to source some photographs that you can use.
  *   Follow/like –
Twitter - @WelshMuseums  Facebook - /amgueddfeyddcymruwelshmuseums

Will there be a press release template?

Yes – a press release template with quotes will be produced for you to use and adapt for local media. This will be circulated asap.

Don’t forget to send your press releases to us (Audience Development Team) for the Festival website and to Visit Wales – [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> who may feature it on their website.

How about evaluation?

An evaluation pack will be circulated over the next couple of weeks so you can share with staff and plan how you are going to capture all the feedback! If you have any good ideas for evaluation please get in touch asap so I can include in the pack.


Any questions/comments?

Nicola Williams
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Tel: 01978 722988

Bethan Rogers
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Tel: 01978 722995

                                                                                                Y Diweddaraf i Staff 3 – Medi 2015

Dim ond MIS I FYND tan ddechrau Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2015 ac mae yna gymaint i’w wneud o hyd!

Ydych chi wedi derbyn eich deunyddiau cyhoeddusrwydd?

Fe ddylai pob amgueddfa sydd wedi archebu pecynnau hyrwyddo fod wedi’u derbyn erbyn hyn. Os ddim, cofiwch gysylltu cyn gynted â phosib.

Mae gennym ddeunyddiau sbâr ar gael e.e. pensiliau, bathodynnau, posteri, cardiau post – felly os bydd arnoch angen unrhyw beth, codwch y ffôn! Ydych chi wedi meddwl tynnu lluniau o’r deunyddiau a’u rhoi ar Facebook/Twitter i ddechrau’r cyffro?

Yr holl ddeunyddiau ynghyd â –

  *   Poster gwag i chi roi gwybodaeth am eich digwyddiadau lleol
  *   Baneri ar lein ar gyfer eich gwefan (os na allwch ddefnyddio’r rhain, cofiwch sicrhau bod logo’r Ŵyl gyda dolen at www.amgueddfeydd.cymru/<http://www.amgueddfeydd.cymru/> www.museums.wales<http://www.museums.wales> ar eich gwefan leol/gwefannau lleol)
  *   Gwaith celf ar gyfer baneri naid
  *   Logos mewn gwahanol ffurfiau a chanllawiau i’r brand
  *   Hashnod/posteri hunlun ‘Rwy’n Cefnogi’

Mae’r cyfan i’w cael yma -
http://welshmuseumsfederation.org/en/news-archive/resources-landing/marketing/welsh-museums-festival.html


Ydych chi wedi bwrw golwg dros fanylion eich amgueddfa a rhoi eich digwyddiadau ar y wefan?

Edrychwch ar www.amgueddfeydd.cymru<http://www.amgueddfeydd.cymru> / www.museums.wales<http://www.museums.wales>. I ddiweddaru gwybodaeth am eich amgueddfa neu ychwanegu digwyddiadau/delweddau at restr Beth Sydd Ymlaen ar y wefan, dilynwch y cyfarwyddiadau i staff ar y wefan -
http://welshmuseumsfederation.org/en/news-archive/resources-landing/marketing/welsh-museums-festival.html

RHOWCH EICH DIGWYDDIADAU AR Y WEFAN ERBYN 30 MEDI er mwyn manteisio ar gyfleoedd marchnata’r Ŵyl.

Ceisiwch gynnwys delweddau i gyd-fynd â’ch digwyddiadau gan fod hyn o gymorth gyda hyrwyddo ac yn llawer mwy tebygol o ddenu sylw’r cyfryngau.

Sylwch – bydd unrhyw ddigwyddiadau sy’n berthnasol i Amgueddfeydd yn y Nos (30-31 Hydref) yn cael eu rhoi’n awtomatig ar gronfa ddata Amgueddfeydd yn y Nos felly fydd dim angen gwneud hyn ddwywaith (dim gwahaniaeth os ydych eisoes wedi gwneud y ddau). Petaech chi eisiau cael golwg ar restr digwyddiadau Amgueddfeydd yn y Nos ewch i -
http://museumsatnight.org.uk/events-page/?keywords=&limit=40&region=Wales


Allwch chi gynnig cyfle i dynnu llun?

Rydym yn chwilio am gyfleoedd i dynnu lluniau dros yr wythnosau nesaf, yn benodol lluniau a fydd yn tynnu sylw at eich digwyddiadau a’ch gweithgareddau y gallwn eu defnyddio ar gyfer y cyfryngau. Yn amlwg, bydd raid ‘llwyfannu’ y lluniau ac fe allech chi ddwyn perswâd ar rai o’ch ymwelwyr presennol i’ch helpu. Ond, os gallwch feddwl am gyfle da i dynnu llun yn eich amgueddfa, cofiwch gysylltu a gallwn drafod y manylion gyda chi. Fe weithiodd hyn yn arbennig o dda ar gyfer Gŵyl Amgueddfa’r Alban ac fe gafodd y delweddau sylw gan y cyfryngau nifer o weithiau.

Wnaethoch chi fethu gweithdai ar yr Ŵyl i staff?

Os felly, mae’r holl gyflwyniadau i’w cael ar wefan y Ffederasiwn –
http://welshmuseumsfederation.org/en/news-archive/resources-landing/marketing/welsh-museums-festival.html

Diolch i bawb oedd yn bresennol – gobeithio iddo fod yn ddiwrnod defnyddiol. Ble bo modd, rhannwch y cyflwyniadau gyda’ch timau a staff croesawu er mwyn sicrhau bod pawb yn hollol gyfarwydd â’r Ŵyl yn lleol a chenedlaethol.

Ydych chi wedi gweld y pecyn cyfryngau cymdeithasol ar gyfer staff?

Mae’r pecyn (ar wefan y Ffederasiwn – defnyddiwch y ddolen uchod) yn rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau ynghylch cymryd rhan ar gyfryngau cymdeithasol ynghyd â themâu posib i’ch helpu i gynllunio a chreu cynnwys hwyliog a diddorol ar gyfer yr Ŵyl.

Y Prif Awgrymiadau

  *   Rhannwch y pecyn staff gyda’r holl staff a thrafodwch syniadau am y cynnwys nawr!
  *   Cofiwch gynnwys hashnod yr Ŵyl ym mhob trydar - #gwylamgueddfeydd / #welshmuseumsfest
  *   Bydd ffotograffau yn eich negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn golygu y bydd y negeseuon yn cyrraedd mwy o bobl.  Dechreuwch chwilio am ffotograffau y gallwch eu defnyddio.
  *   Dilynwch/hoffwch –
Twitter - @WelshMuseums  Facebook - /amgueddfeyddcymruwelshmuseums

A fydd templed ar gyfer datganiad i’r wasg?

Bydd – bydd templed datganiad i’r wasg gyda dyfyniadau yn cael ei lunio i chi ei ddefnyddio a’i addasu ar gyfer y cyfryngau lleol. Byddwn yn dosbarthu hwn cyn gynted â phosib.

Cofiwch anfon eich datganiadau i’r wasg atom (y Tîm Datblygu Cynulleidfa) ar gyfer gwefan yr Ŵyl ac at Croeso Cymru – [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> a gallent ei gynnwys ar eu gwefan.

Beth am werthuso?

Bydd pecyn gwerthuso yn cael ei anfon dros yr wythnos neu ddwy nesaf er mwyn i chi ei rannu gyda staff a chynllunio sut rydych yn mynd i gasglu’r holl adborth! Os oes gennych unrhyw syniadau da ar gyfer gwerthuso, cofiwch gysylltu cyn gynted â phosib er mwyn i mi allu ei gynnwys yn y pecyn.


Unrhyw gwestiynau/sylwadau?

Nicola Williams
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Ffôn: 01978 722988

Bethan Rogers
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Ffôn: 01978 722995



Nicola Williams BA AMA MCIM Chartered Marketer
Audience Development Team | Tîm Datblygu Cynulleidfa
All Wales - Libraries, Archives & Museums | Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd - Cymru Gyfan
c/o Wrexham County Borough Council | d/o Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Plas Pentwyn, Castle Road, Coedpoeth, Wrexham, LL11 3NA | Plas Pentwyn, Heol Y Castell, Coedpoeth, Wrecsam, LL11 3NA
• 01978 722988  Email I E-bost: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>   [Description: Re-sized1] <http://www.cim.co.uk/community/cpd-and-chartered-status/>

@archiveswales I @archifaucymru
#explorearchives   #archwilioarchifau

@welshmuseums
#welshmuseumsfest  #gwylamgueddfeydd

@welshlibraries I @llyfrgellcymru
#LoveLibraries  #CaruLlyfrgelloedd


Take a look - you can pay, report, request, have your say and find information online at www.wrexham.gov.uk.  

Save paper - think before you print!

This e-mail message and any attachments are intended solely for the individual or organisation to whom it is addressed. For full conditions in relation to content and use of this e-mail message and any attachments, please refer to http://www.wrexham.gov.uk/top_navigation/disclaimers.htm.

Ewch i weld - mi fedrwch chi dalu, anfon, ceisio, dweud eich dweud, a dod o hyd i wybodaeth ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk. Arbedwch bapur – meddyliwch cyn argraffu!
Mae'r neges e-bost hon ac unrhyw atodiadau wedi eu bwriadu ar gyfer yr unigolyn neur sefydliad yi cyfeirir atynt yn unig. Am yr amodau llawn ynglyn a chynnwys a defnyddior neges e-bost hon ac unrhyw atodiadau, cyfeiriwch at http://www.wrecsam.gov.uk/top_navigation/disclaimersw.htm.