Print

Print


Wedi dweud hynny, mae Geiriadur y Brifysgol yn rhoi ystyr mwy eang hefyd – ffig – gwahanu neu ddieithrio dyn oddi wrth hoff arfer!

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Bethan Jones
Anfonwyd: 17 Medi 2015 17:19
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: ATB/RE: wean

 

Mi ddylwn fod wedi ychwanegu mai yng nghyd-destun babis dwi wedi ei glywed.

 

Cofion
Bethan

 

From: [log in to unmask]">Carolyn Iorwerth

Sent: Thursday, September 17, 2015 5:14 PM

Subject: ATB/RE: ATB/RE: wean

 

A hefyd – ydy rhywun yn gallu ‘dyfnu’ ei hun – mae’r enghraifft gan Bethan isod yn dweud ‘wedi’i ddyfnu’.  Felly petai rhywun yn defnyddio ‘dyfnu’ ar gyfer ‘wean yourself’, byddai’n rhaid dweud ‘eich diddyfnu eich hun’?  Mynd yn drwsgwl braidd tydi?

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Anfonwyd: 17 Medi 2015 17:08
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: wean

 

Cytuno Geraint. Rhoi'r gorau i rywbeth fasan ni'n ei ddeud yn naturiol. Mae hi mor hawdd, yntydi, mynd ar goll fel malwen mewn triog (sori am gymysgu trosiada) pan fydd rhywun ar ganol rhyw ddogfen. Diolch am y cylch, sy'n gweld petha o bell, i'n rhoi ar ben y ffordd pan ddigwydd hynny.

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2015-09-17 17:56 GMT+02:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:

Cytuno. Yn yr achos yma dw innau'n meddwl mai awgrym Carolyn ydi'r gorau, gan nad ydyn ni'n sôn am ddiddyfnu'n llythrennol. Does neb wir yn sôn am "ddyfnu" eu hunain oddi ar goffi, nagoes? Idiom Saesneg ydio, beryg.

Geraint

On 17/09/2015 16:51, Ann Corkett wrote:

"diddyfnu" (GyrA) 'rwy'n gyfarwydd ag o.  Gellid defnyddio hwnnw a "wean" mewn cromfachau, a dyna fyddwn i'n ei wneud 'tasai'r darn yn son am fabis a llefrith.  Byddai rhai pobl yn ei ddeall a rhai pobl yn dysgu rhywbeth.

Ar y llaw arall, gwerthfawrogaf fod hyn yn dibynnu ar y gynulleidfa.  Hefyd, efallai bod mwy o gyfiawnhad dros fynd am awgrym Carolyn yng nghyd-destun coffi yn hytrach na llefrith.  Yn gyffredinol, beth sy'n bod ar drio codi ymwybyddiaeth, yn lle mynd am y ffactor cyffredin mwyaf?

Ann

On 17/09/2015 16:13, Bethan Jones wrote:

“dyfnu” ydi be dwi’n gyfarwydd hefo fo ar lafar ym Môn, ac yn dweud hyn yn reit naturiol. Ydi o wedi ei ddyfnu eto?

 

Cofion
Bethan

 

From: [log in to unmask]">Carolyn Iorwerth

Sent: Thursday, September 17, 2015 10:03 AM

Subject: ATB/RE: wean

 

Rhoi’r gorau iddo’n raddol?

(Er bo diddyfnu’n dal i gael ei ddefnyddio ar lafar mewn rhai ardaloedd – ddim yn siŵr pa mor gyfarwydd fyddai fod)

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Timothy
Anfonwyd: 17 Medi 2015 10:00
At: [log in to unmask]
Pwnc: wean

 

Bore da!

y frawddeg ydy:

Caffeine: you should try and wean yourself off it slowly

Diolch,
Dafydd


Mae'r anfonwr wedi tynnu'r
                                ddelwedd. Avast logo

This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
www.avast.com

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.6140 / Virus Database: 4419/10655 - Release Date: 09/17/15