I ymhelaethu ar y cyd destun, mae’n rhoi cyngor i bobl ar sut i leihau’r risg o gwympo drwy wneud ymarferion i wella eu cryfder a’u cydbwysedd, a gwneud newidiadau o amgylch eu cartref megis cael gwared ar rwystrau ac ati. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards Sent: 16 September 2015 13:39 To: [log in to unmask] Subject: Re: Steady on - keep safe Mae’n bosibl bod y slogan yn ymwneud â phethau fel mynd i ddosbarthiadau i ddysgu bod yn fwy cadarn ar eich traed, ac yn fwy felly na bod yn fwy pwyllog wrth symud. Mae rhaglen o’r enw “Be Steady Be Safe” gan gyngor yn Swydd Caer, er enghraifft, sy’n cynnwys pob math o bethau, gan gynnwys dosbarthiadau o’r fath http://www.cheshireeast.gov.uk/social_care_and_health/health_advice/healthy_living/falls_prevention.aspx Ac mae canllaw cynhwysfawr iawn gan Age Well o’r enw “Staying Steady Staying Safe” http://www.agewelluk.org.uk/documents/FallsPreventionLFLT-WEB-SINGLES.pdf ac un gan Age UK http://www.ageuk.org.uk/Documents/EN-GB/Information-guides/AgeUKIG14_staying_steady_inf.pdf?dtrk=true sy’n cynnwys pethau tebyg. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MELANIE DAVIES Sent: 16 September 2015 13:22 To: [log in to unmask] Subject: Re: Steady on - keep safe A fyddai'n edrych yn chwithig defnyddio pwyll ddwywaith? Hynny yw: Gan bwyll - pwyll piau hi? Melanie On Wednesday, 16 September 2015, 12:41, Ieuan Wyn Gruffydd <[log in to unmask]> wrote: Gan bwyll fe ewch ymhell Ara deg amdani Ewch amdani'n ara deg Pwyll piau hi Ewch yn syth ewch yn saff Ymlaen gan bwyll ymlaen yn saff Sent from my iPhone On 16 Sep 2015, at 12:29, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: Prynhawn Da Yn dilyn fy neges isod ddoe, mae’n debyg nad oes teitl Cymraeg wedi’i fathu eto. Tybed oes gan rhywun gynigion bachog? Dim llawer o ysbrydolaeth yma. ‘Gan bwyll i gadw’n ddiogel’ yw’r cynnig gorau hyd yma, ond mae cyfleu’r chwarae ar y gair ‘steady’ yn anodd, a tydi ‘cadarn’ ddim yn taro deuddeg rhywsut. Diolch ymlaen llaw Rhian Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services 47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd / Cardiff CF5 1AL 02920 554567 <image001.png> From: Rhian Huws [mailto:[log in to unmask]] Sent: 15 September 2015 07:27 To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary ([log in to unmask]) Subject: Steady on - keep safe Bore Da Tybed oes rhywun wedi dod ar draws fersiwn Gymraeg swyddogol o hwn? Slogan ar gyfer Diwrnod Pobl Hŷn a’r ymgyrch i atal cwympiadau a sut i leihau’r risg o gwympo. Diolch ymlaen llaw Rhian