Diolch Claire – ie, dyna’r ergyd. Wn i ddim pa mor gyfarwydd yw pobl gyda’r gair ‘sad’ y dyddiau yma? Mae fy mhlant i’n fy ngalw i’n ‘sad’ yn aml iawn ond nid oherwydd fy mod i’n gadarn ar fy nhraed!! From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards Sent: 16 September 2015 12:42 To: [log in to unmask] Subject: Re: Steady on - keep safe Beth am “Sad a Saff / Bod yn Sad a Saff”. Dwi’n cymryd mai “steady on your feet” yw ergyd “steady” yn y slogan – o gofio mai peidio â chwympo yw’r nod. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 16 September 2015 12:29 To: [log in to unmask] Subject: FW: Steady on - keep safe Prynhawn Da Yn dilyn fy neges isod ddoe, mae’n debyg nad oes teitl Cymraeg wedi’i fathu eto. Tybed oes gan rhywun gynigion bachog? Dim llawer o ysbrydolaeth yma. ‘Gan bwyll i gadw’n ddiogel’ yw’r cynnig gorau hyd yma, ond mae cyfleu’r chwarae ar y gair ‘steady’ yn anodd, a tydi ‘cadarn’ ddim yn taro deuddeg rhywsut. Diolch ymlaen llaw Rhian Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services 47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd / Cardiff CF5 1AL 02920 554567 From: Rhian Huws [mailto:[log in to unmask]] Sent: 15 September 2015 07:27 To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary ([log in to unmask]) Subject: Steady on - keep safe Bore Da Tybed oes rhywun wedi dod ar draws fersiwn Gymraeg swyddogol o hwn? Slogan ar gyfer Diwrnod Pobl Hŷn a’r ymgyrch i atal cwympiadau a sut i leihau’r risg o gwympo. Diolch ymlaen llaw Rhian