Dwi ddim yn gweld dim byd yn bod ar “Gan bwyll - pwyll piau hi” er yr ailadrodd yr ailadrodd. Mae’n Gymreigaidd ac yn glir.

g

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 18 Medi 2015 14:01
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Steady on - keep safe

 

Licio hwnna Rhian!

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Jones
Anfonwyd: 18 Medi 2015 14:00
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Steady on - keep safe

 

Neu fel yr emyn, Bydd yn bwyllog, paid â llithro ....

 

From: [log in to unmask]"> Geraint Lovgreen

Sent: Friday, September 18, 2015 1:56 PM

Subject: Re: Steady on - keep safe

 

Peidiwch â simsanu - pwyll piau hi.

On 18/09/2015 08:28, Rhian Jones wrote:

Tybed fyddai’n bosib defnyddio ‘simsan’ neu ‘sigledig’ rywsut?

e.e. Llai simsan - mwy diogel

Rhian

 

From: [log in to unmask]">Rhian Huws

Sent: Wednesday, September 16, 2015 3:50 PM

Subject: Re: Steady on - keep safe

 

Wel ia – falle mai dyna’r gorau eto.

 

Mi gynigiaf ‘restr fer’ iddyn nhw falle, rhag ofn

 

Diolch bawb.

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 16 September 2015 15:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Steady on - keep safe

 

Cytuno bod 'sad' yn ddiarth ella - ond beth am 'sadiwch'?

Sadiwch er mwyn cadw'n saff

On 16/09/2015 13:21, Rhian Huws wrote:

Diolch Claire – ie, dyna’r ergyd. Wn i ddim pa mor gyfarwydd yw pobl gyda’r gair ‘sad’ y dyddiau yma?

 

Mae fy mhlant i’n fy ngalw i’n ‘sad’ yn aml iawn ond nid oherwydd fy mod i’n gadarn ar fy nhraed!!

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 16 September 2015 12:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Steady on - keep safe

 

Beth am “Sad a Saff / Bod yn Sad a Saff”.

 

Dwi’n cymryd mai “steady on your feet” yw ergyd “steady” yn y slogan – o gofio mai peidio â chwympo yw’r nod.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 16 September 2015 12:29
To: [log in to unmask]
Subject: FW: Steady on - keep safe

 

Prynhawn Da

 

Yn dilyn fy neges isod ddoe, mae’n debyg nad oes teitl Cymraeg wedi’i fathu eto.

 

Tybed oes gan rhywun gynigion bachog? Dim llawer o ysbrydolaeth yma. ‘Gan bwyll i gadw’n ddiogel’ yw’r cynnig gorau hyd yma, ond mae cyfleu’r chwarae ar y gair ‘steady’ yn anodd, a tydi ‘cadarn’ ddim yn taro deuddeg rhywsut.

 

Diolch ymlaen llaw

 

Rhian

 

 

Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services

47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd / Cardiff CF5 1AL

02920 554567

 

From: Rhian Huws [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 15 September 2015 07:27
To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary ([log in to unmask])
Subject: Steady on - keep safe

 

Bore Da

Tybed oes rhywun wedi dod ar draws fersiwn Gymraeg swyddogol o hwn? Slogan ar gyfer Diwrnod Pobl Hŷn a’r ymgyrch i atal cwympiadau a sut i leihau’r risg o gwympo.

 

Diolch ymlaen llaw

 

Rhian

 

 

 

 

 

 

--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.