"diddyfnu" (GyrA) 'rwy'n gyfarwydd ag o.  Gellid defnyddio hwnnw a "wean" mewn cromfachau, a dyna fyddwn i'n ei wneud 'tasai'r darn yn son am fabis a llefrith.  Byddai rhai pobl yn ei ddeall a rhai pobl yn dysgu rhywbeth.

Ar y llaw arall, gwerthfawrogaf fod hyn yn dibynnu ar y gynulleidfa.  Hefyd, efallai bod mwy o gyfiawnhad dros fynd am awgrym Carolyn yng nghyd-destun coffi yn hytrach na llefrith.  Yn gyffredinol, beth sy'n bod ar drio codi ymwybyddiaeth, yn lle mynd am y ffactor cyffredin mwyaf?

Ann
On 17/09/2015 16:13, Bethan Jones wrote:
“dyfnu” ydi be dwi’n gyfarwydd hefo fo ar lafar ym Môn, ac yn dweud hyn yn reit naturiol. Ydi o wedi ei ddyfnu eto?
 
Cofion
Bethan
 
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Carolyn Iorwerth
Sent: Thursday, September 17, 2015 10:03 AM
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Subject: ATB/RE: wean
 

Rhoi’r gorau iddo’n raddol?

(Er bo diddyfnu’n dal i gael ei ddefnyddio ar lafar mewn rhai ardaloedd – ddim yn siŵr pa mor gyfarwydd fyddai fod)

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dafydd Timothy
Anfonwyd: 17 Medi 2015 10:00
At: [log in to unmask]
Pwnc: wean

 

Bore da!

y frawddeg ydy:

Caffeine: you should try and wean yourself off it slowly

Diolch,
Dafydd


Mae'r anfonwr wedi tynnu'r ddelwedd.
                              Avast logo

This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
www.avast.com

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.6140 / Virus Database: 4419/10655 - Release Date: 09/17/15