Ia Ok. Dw i yn dallt Geraint jyst ddim yn licio’r gair symudedd ydw i – chwiw personol ond mi ildia’i. Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen Anfonwyd: 24 Awst 2015 13:35 At: [log in to unmask] Pwnc: Re: ATB/RE: ATB/RE: Mobility Scooter Dwi'n teimlo mai llawfer am "sgwter (i helpu) symudedd" ydio. Mae'n enw haniaethol dydi - dydi'r gymhariaeth ag 'eisteddiad' ddim yn dal dwr achos 'sgwter symudiad' fyddai hynny. Dyna be fyddai'n od. On 24/08/2015 13:11, Carolyn Iorwerth wrote: Na jyst y gair ‘symudedd’ sydd mor od de? Dw i’n teimlo bod angen berf yn hytrach nag enw – faset ti ddim yn deud ‘cadair eisteddiad’ na faset, felly fasa’n well gen i ‘sgwter symud’ ond beryg bod ‘symudedd’ wedi ennill ei blwy bellach. Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen Anfonwyd: 24 Awst 2015 13:04 At: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Pwnc: Re: ATB/RE: Mobility Scooter Dwi'm yn gweld 'sgwter symudedd' yn fwy trwsgl na 'mobility scooter' - o leia mae na gyflythrennu! Geraint On 24/08/2015 11:10, Carolyn Iorwerth wrote: Ie, os na cha’i ddim cynnig gwell, dw i’n meddwl mai rhoi ‘sgwter symudedd’ y tro cyntaf wna’i ac wedyn ‘y sgwter’. Y ‘symudedd’ sy’n fy mhoeni nid y sgwter. Carolyn Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Bethan Mair Anfonwyd: 24 Awst 2015 11:07 At: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Pwnc: Re: Mobility Scooter Rydw i wedi defnyddio’r cyfieithiad ‘sgwteri symudedd’ fy hun yn y gorffennol – ond mae fy mam yn defnyddio’r cerbyd ei hun! Y Sgwter mae hi’n ei alw, yn hollol naturiol yn Gymraeg. Bethan Bethan Mair MA Y Gwasanaeth Geiriau The Word Service [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> 07779 102224 Skype: bethanmair54 Ms Bethan Mair Hughes Y Berth 29 Coed Bach Pontarddulais Abertawe / Swansea SA4 8RB On 24 Awst 2015, at 10:55, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > wrote: Mae ymholiad am hwn yn yr archif dipyn yn ôl ond chynigiwyd dim byd. Oes rhywun yn defnyddio/gallu cynnig term da? Mae ‘na enghreifftiau o ‘sgwteri symudedd’ ond dw i’n gweld hynny’n drwsgl braidd. Carolyn