Print

Print


Dwi wedi dod o hyd i gyfeiriad at ddatblygiadau yn "Callaghan Square/Lloyd George Avenue/The Flourish", sydd hefyd yn awgrymu mai enw ar ddarn mwyaf deheuol yr A470 yw 'The Flourish'. Hefyd mae nodyn gan gwmni Bws Caerdydd am gau heolydd yn dweud "The route of the run will mean the closure of Pier Head Street, The Flourish, Lloyd George Avenue (from its junction with The Flourish to Letton Road) and Harbour Drive from 06:00 until approximately 13:00."

Rhaid dweud, yr unig gyfeiriadau at 'Y Rhodres' a welaf i yw cyfeiriad Crefft yn y Bae, ac mae cyfeiriadau eraill gan Gyngor y Celfyddydau i "Crefft yn y Bae, The Flourish, Rhodfa Lloyd George".

Hyd y gwelaf, mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio 'The Flourish" neu "Y Flourish".

Claire


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 19 August 2015 13:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: The Flourish, Bae Caerdydd

Diolch Claire.

Mae'r darn dwi'n ei gyfieithu'n sôn am ardal gollwng o fysus "on The Flourish" - felly dwi'n cymryd ei fod yn cael ei ddefnyddio fel enw ar y rhan honno o'r Rhodfa? Mae'r llecyn dan sylw i'w weld ar Google Street View, a rhes o fysus arno.

Geraint

On 19/08/2015 13:08, Claire Richards wrote:
> Adeilad yn hytrach na stryd yw 'The Flourish', lle mae arddangosfeydd a siop crefftau - mae ar Rodfa Lloyd George.
>
> Mae Cyngor y Celfyddydau ac Urdd Gwneuthurwyr Cymru (sef y corff sy'n rhedeg y lle crefftau) yn defnyddio 'Y Rhodres'.
>
> Claire
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of 
> Geraint Lovgreen
> Sent: 19 August 2015 12:48
> To: [log in to unmask]
> Subject: The Flourish, Bae Caerdydd
>
> Mae'n debyg fod yna stryd yn y Bae o'r enw The Flourish - oes yna enw Cymraeg tybed?
>
> Geraint