Dwi'n teimlo mai llawfer am "sgwter (i helpu) symudedd" ydio. Mae'n enw haniaethol dydi - dydi'r gymhariaeth ag 'eisteddiad' ddim yn dal dwr achos 'sgwter symudiad' fyddai hynny. Dyna be fyddai'n od. On 24/08/2015 13:11, Carolyn Iorwerth wrote: > > Na jyst y gair ‘symudedd’ sydd mor od de? Dw i’n teimlo bod angen berf > yn hytrach nag enw – faset ti ddim yn deud ‘cadair eisteddiad’ na > faset, felly fasa’n well gen i ‘sgwter symud’ ond beryg bod ‘symudedd’ > wedi ennill ei blwy bellach. > > *Oddi wrth:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On > Behalf Of *Geraint Lovgreen > *Anfonwyd:* 24 Awst 2015 13:04 > *At:* [log in to unmask] > *Pwnc:* Re: ATB/RE: Mobility Scooter > > Dwi'm yn gweld 'sgwter symudedd' yn fwy trwsgl na 'mobility scooter' - > o leia mae na gyflythrennu! > > Geraint > > On 24/08/2015 11:10, Carolyn Iorwerth wrote: > > Ie, os na cha’i ddim cynnig gwell, dw i’n meddwl mai rhoi ‘sgwter > symudedd’ y tro cyntaf wna’i ac wedyn ‘y sgwter’. Y ‘symudedd’ > sy’n fy mhoeni nid y sgwter. > > Carolyn > > *Oddi wrth:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On > Behalf Of *Bethan Mair > *Anfonwyd:* 24 Awst 2015 11:07 > *At:* [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > *Pwnc:* Re: Mobility Scooter > > Rydw i wedi defnyddio’r cyfieithiad ‘sgwteri symudedd’ fy hun yn y > gorffennol – ond mae fy mam yn defnyddio’r cerbyd ei hun! Y Sgwter > mae hi’n ei alw, yn hollol naturiol yn Gymraeg. > > Bethan > > Bethan Mair MA > > Y Gwasanaeth Geiriau > > The Word Service > > [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > > 07779 102224 > > Skype: bethanmair54 > > Ms Bethan Mair Hughes > > Y Berth > > 29 Coed Bach > > Pontarddulais > > Abertawe / Swansea > > SA4 8RB > > On 24 Awst 2015, at 10:55, Carolyn Iorwerth > <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > > > > Mae ymholiad am hwn yn yr archif dipyn yn ôl ond chynigiwyd > dim byd. Oes rhywun yn defnyddio/gallu cynnig term da? Mae > ‘na enghreifftiau o ‘sgwteri symudedd’ ond dw i’n gweld > hynny’n drwsgl braidd. > > Carolyn >