Pecyn i athrawon ydi o, ac yn argymell creu geirfa i blant yn cynnwys geiriau a ddefnyddir wrth sôn am luosi. Mi ychwanegaf 'yn gwneud' i'r rhestr dwi'n meddwl - diolch.On 2 Jul 2015, at 12:10, MELANIE DAVIES wrote:Mae fy mhlentyn i'n defnyddio "pump pump dau ddeg pump" ac ati ar lafar ond dydw i ddim yn siwr a fyddai'n deall hyn o'i weld ar bapur gan ei fod yn edrych fel grwp o rifau. Ond rwy'n credu byddai "mae pump pump yn gwneud dau ddeg pump" yn ddigon dealladwy. Mae'n dibynnu'n llwyr wrth gwrs ar oedran y plant. Mae'n siwr y byddai plant ysgol uwchradd yn deall lluosi cystal.
'Lluosi' a ddefnyddir gan fy mhlant yn yr ysgol. "Beth yw pump lluosi chwech?"
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
Sent: 02 Gorffennaf 2015 11:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: times
Trin iaith mathemateg mae o, ac enghreifftiau o eiriau a ddefnyddir wrth sôn am luosi yw "times / lots of ..." ac ati
Wrth gyflwyno'r swm, dwi'n cytuno nad oes angen defnyddio gair penodol ... falla mai dyna pam fedra i ddim meddwl beth fyddai'r gair!
On 2 Jul 2015, at 11:40, Megan Tomos wrote:
> Oes angen rhywbeth o gwbl? Chwech saith = pedwardeg dau?
>
> Sent from my iPad
>
>> On 2 Gorff 2015, at 12:31, Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> wrote:
>>
>> Teimlo'n hynod dwp bore ma!
>>
>> Mathemateg yw'r testun - beth ddefnyddir am 'times' h.y. 6 times 7?
>>
>> Diolch.
>>
>> Sioned