Print

Print

Dyne'r union adnoddau dwi'n gorfod eu cyfieithu, Claire.

Sylwch hefyd mai 'Jordan' sydd ar y dudalen yno ac nid Gwlad Iorddonen fel yn Atlas CBAC, felly jyst heb ystyried yr enw Cymraeg maen nhw, debyg.

Roeddwn ar y ffôn efo nhw pan sylwais eich ymateb fel mae'n digwydd, ond doedd eu cyfieithwyr ddim ar gael. Does dim bwriad cyfieithu'r adnoddau eu hunain gan fod y cwrs yn dod i ben yn fuan.

Aled

Cyfieithydd / Clerc i'r Llywodraethwyr
Ysgol Morgan Llwyd
01978 315064

________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards [[log in to unmask]]
Sent: 06 July 2015 14:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Grand Cayman

‘Grand Cayman’ sydd ar dudalen CBAC yma http://www.cbac.co.uk/qualifications/travel-and-tourism/?language_id=2 er, hyd y gwelaf, tydi’r adnoddau ddim ar gael yn Gymraeg eto.

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MELANIE DAVIES
Sent: 06 July 2015 14:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Grand Cayman

Dwi'n cytuno â'r egwyddor ond os mai deunydd i'r ysgol sydd gan Aled dan sylw, mae'n bosibl fydde papur arholiad yn dilyn adnoddau penodol e.e. yr Atlas Cymraeg Newydd. Byddai'n well gen i Caiman Fawr/Fach hefyd.

On Monday, 6 July 2015, 14:25, "Vaughan-Thomas, Paul" <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:

Byddwn i’n tueddu i gytuno â chi Aled a chyfieithu’r enwau i ‘Caiman Fawr’ a ‘Caiman Fach’. Does dim sens yn cadw’r Saesneg - mae pob math o nodweddion llai cyfarwydd ar draws y byd eisoes wedi cael eu cyfieithu i’r Gymraeg (e.e. Diffeithwch Mawr Victoria am Great Victoria Desert yn Awstralia a’r Llynnoedd Mawr am Great Lakes). Nid oes modd dilyn yr Atlas Cymraeg Newydd bob tro – mae’n cadw llawer o enwau’n ddigyfnewid, megis China, Pakistan a Mexico (yn lle’r ffurfiau mwy cyffredin Tsieina, Pacistan a Mecsico) ac eto mae’n troi ffurfiau cyfarwydd fel Java a Sumatra yn Jawa a Sumatera (ffurfiau anarferol iawn).

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of MELANIE DAVIES
Sent: 05 July 2015 22:13
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: Grand Cayman

Yn ôl Yr Atlas Cymraeg Newydd, yr enwau Saesneg sy'n cael eu harddel. Falle byddai'n werth gweld oes gan Atlas Mawr y Byd gan Atebol gynnig arall.

Melanie

On Friday, 3 July 2015, 16:33, Aled Powell <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:

Mae 'Cayman' yn ymddangos gydag i-dot yn lle'r y mewn o leiaf deunaw o ieithoedd ac yn agosach at wraidd yr enw ("By 1530 they were known as the Caymanes after the Carib word caimán for the marine crocodile"), felly dwi'n cymryd bod Ynysoedd Caiman yn gywir yn Gymraeg. Ond beth am y brif ynys?

Does dim enghraifft ar y we, ond ydw i'n iawn i fathu 'Caiman Fawr' (Grand Cayman)? Mi fyddai'r ddwy arall felly yn Caiman Fach (Little Cayman) a Caiman Brac (Cayman Brac).

Aled

Cyfieithydd / Clerc i'r Llywodraethwyr
Ysgol Morgan Llwyd
01978 315064

________________________________
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not
the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions
and other information in this message that do not relate to the official business of
Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. ..

Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************