O dan Defnyddio'r Rhagenwau Mewnol mae o'n dweud:

"Defnyddir 'm, 'th yn y cyflwr genidol ar ôl y geiriau a (cys.), â (ardd. a chys.), gyda, tua, efo (= 'gyda'), na, i (ardd.), o (ardd.), mo (= 'ddim o'), e.e. fy mrawd a'm chwaer; gyda'th dad.........

Dwi'n hoffi awgrym Sian os dyna ydy'r ystyr sy gen ti.

Pob hwyl



2015-07-30 11:30 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
... a beth mae o'n ddeud?


On 30/07/2015 11:18, Mary Jones wrote:
Mae Stepehn J Williams yn trafod y rhagenwau mewnol ar dudalennau 59-60 yn Elfennau Gramadeg Cymraeg.
Mary

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 30 July 2015 10:27
To: [log in to unmask]
Subject: a fy mod, a'm bod

Help - Galw'r gramadegwyr!!

Dwi wedi drysu braidd ac yn methu dod o hyd i'r ateb yn PWT -

Be sy'n gywir - "Gwelodd fod y bwthyn yn wag a fy mod wedi mynd" YNTEU
"Gwelodd fod y bwthyn yn wag a'm bod wedi mynd" ??

Geraint