Ddim yn ateb y cwestiwn ond a fyddai modd dod rownd iddi gan ddweud “a minnau wedi mynd”? Siân > On 30 Jul 2015, at 11:07, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote: > > Ddim gramadegwr sy'n ateb ond a'm bod sy'n gywir, dwi'n meddwl. Fedra i ddim meddwl am enghraifft ar y funud ond mae 'n i'w glywed o hyd ac o hyd yn lle'r 'm yn yr iaith lafar. Mi fydda i'n defnyddio'r 'm yn aml wrth gyfieithu, er ei fod yn cael ei gyfri'n dra ffurfiol, am fod a fy yn swnio'n drwsgl ac yn creu treiglad lle nad oes angen un. > > 2015-07-30 10:27 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>: > Help - Galw'r gramadegwyr!! > > Dwi wedi drysu braidd ac yn methu dod o hyd i'r ateb yn PWT - > > Be sy'n gywir - "Gwelodd fod y bwthyn yn wag a fy mod wedi mynd" YNTEU "Gwelodd fod y bwthyn yn wag a'm bod wedi mynd" ?? > > Geraint >