Print

Print


Yn gymwys. Geiriad deddfwriaeth yw'r ffurf ar Gymraeg sydd â'r grym mwyaf yn llygaid y Gyfraith.

 

Yn iach,

 

T

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Sent: 30 July 2015 10:28
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Deprivation of Liberties

 

Os yw rhywun wedi defnyddio "Deprivation of Liberties" (yn y lluosog) yn llac pan mai rheoliadau a threfniadau diogelu "Deprivation of Liberty" (yn yr unigol) oedd testun y drafodaeth mewn gwirionedd, yna does dim problem - "amddifadu o ryddid" sydd yn y ddeddfwriaeth ddwyieithog.

 

Hyd y gwela i, does dim sôn am "deprivation of liberties" yn y lluosog mewn deddfwriaeth.

 

Claire 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 30 July 2015 10:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Deprivation of Liberties

 

Wel mae'n rhaid wrth ffurf luosog a wela i ddim bod "rhyddidau" yn air o gwbl!

On 30/07/2015 09:57, Saunders, Tim wrote:

	O wyro oddi ar beth sydd ar y gwaith papur swyddogol, mae'n anochel y bydd rhywun yn creu ansicrwydd a diffyg dealltwriaeth. Canlyniad hyn yw fod pobl am dro at y Saesneg er mwyn cael gwybod beth yn gywir sy'n mynd ymlaen.

	 

	Yn iach,

	 

	Tim

	 

	From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
	Sent: 30 July 2015 09:55
	To: [log in to unmask]
	Subject: Re: Deprivation of Liberties

	 

	Diolch am y drafodaeth.
	
	Dwi'n rhyw ogwyddo at "amddifadu o hawliau rhyddid" rwan. Ond yn dal i simsanu!

	On 29/07/2015 14:11, Claire Richards wrote:

		Mae'n dibynnu beth roedden nhw'n ei drafod yn y sesiwn, debyg.

		 

		Mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio'r term 'deprivation of liberties safeguards' ac eraill yn defnyddio 'deprivation of liberty safeguards', am yr un peth.

		 

		I ychwanegu at y miri, mae TermCymru'n rhoi "trefniadau diogelu rhag colli rhyddid" am "deprivation of liberty safeguards", ond mewn deddfwriaeth defnyddir 'amddifadu o ryddid' am 'deprivation of liberty', fel yn y gwahanol "Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid..." sef "Mental Capacity (Deprivation of Liberty .. Regulations".

		 

		Mewn dogfen dwi'n ei chyfieithu ar hyn o bryd, dwi wedi dod ar draws "requests from registered care homes to deprive persons of their liberty" ac wrth gwrs wedi gorfod defnyddio 'amddifadu' yn fan'no.

		 

		Claire

		 

		From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
		Sent: 29 July 2015 13:57
		To: [log in to unmask]
		Subject: Re: Deprivation of Liberties

		 

		Sôn maen nhw am sesiwn hyfforddi yn y digwyddiad "Cydraddoldeb yn 2015" oedd yn canolbwyntio ar "Deprivation of Liberties" (enw'r sesiwn).

		On 29/07/2015 13:47, Claire Richards wrote:

			Beth yw'r cyd-destun?  Ai 'deprivation of liberties safeguards'?

			 

			Claire

			 

			From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
			Sent: 29 July 2015 13:45
			To: [log in to unmask]
			Subject: Re: Deprivation of Liberties

			 

			Dyna feddyliais i - Tybed a fyddai 'hawliau' yn cyfleu 'liberties'? Neu 'dewisiadau' hyd yn oed?
			
			Ac a ydi 'dwyn hawliau' yn union yr un fath ag 'amddifadu rhywun o hawliau'?
			
			Geraint

			On 29/07/2015 13:04, Bethan Mair wrote:

				Bod yn berchen ar hawl i fod yn rhydd ydi ystyr 'liberties', ie? Wnaiff 'Dwyn yr hawl i fod yn rhydd' y tro? 

				 

				Bethan

				 

				Bethan Mair MA

				Y Gwasanaeth Geiriau  

				The Word Service

				 

				[log in to unmask]

				07779 102224

				Skype: bethanmair54

				 

				Ms Bethan Mair Hughes

				Y Berth

				29 Coed Bach

				Pontarddulais

				Abertawe / Swansea

				SA4 8RB

				 

				On 29 Gorff 2015, at 13:02, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

				
				
				
				
				

					Dwi isio rhoi rhywbeth fel "dwyn rhyddid" am "deprivation of liberties" ond sut mae cyfieithu "liberties" yn union? Dio ddim yr un peth â "deprivation of freedom", nac'di?
					
					Geraint

				 

			 

		 

	 

	 

	Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.  

	I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

	 

	This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation.

	 

	For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer <http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer> 

	 

 


Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.  



I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad



This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation.



For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer