Print

Print


Wn i ddim gawsoch chi ateb i hwn Tegwen, ond fe gododd chwilen yn fy mhen i ddilyn trywydd rhai o’r enwau torfol am adar ac anifeiliaid.
Holais yn yr Herald Cymraeg os oedd rhai, ond gan na chafwyd ymateb, gofynnais i’r Athro Gwyn Thomas fathu rhai.  Cyhoeddwyd ei restr yn yr Herald Cymraeg ddydd Mercher diwethaf, ac efallai y bydd rhai o’r rhain yn ddefnyddiol yn y dyfodol.  Rwyf wedi cael gair ganddo fod pob croeso i rannu hon.

ENWAU TORFOL

 

RHAI SY’N BOD YN BAROD

Haid o gŵn

Gyrr o wartheg

Gre o geffylau

Diadell o ddefaid

Praidd o ddefaid

Buches o wartheg

Cenfaint o foch

Haig o bysgod

 

AWGRYMIADAU

Tawelwch o löynnod

Clegar o wyddau

Senedd o asynnod

Cytiad o ieir

Cecian o biod

Slefriad o nadroedd

Calchiadau o wylanod

Pardduaid o jacdoeau

Brenhiniaeth o eryrod

Twnelaid o foch daear

Gwynfyd o elyrch

Hetiad o sguthanod

Slachtar o gigfrain  (O’r Saesneg slaughter y daw hwn)

Prysurdeb o forgrug

Cymanfa o gathod

Cyfrinfa o lwynogod

Llysnafeddiad o falwod

Cawodydd o ddrudwy

Gormes o eliffantod

Sgrech o fwncwn

Peiloniad o jiraffs

Llinellau o deigrod

Jersi o sebras

Esgobaeth o bengwyniaid

Smiciadau o lygod

Tuniad o sardîns

Sglein o frithyll

Hwtiad o dylluanod

Llanast o golomennod

 

Cofion
Bethan
01248 723510
[log in to unmask]
 
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Tegwen Williams
Sent: Wednesday, May 27, 2015 10:43 AM
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Subject: Re: flush
 

Bore da

 

Tybed oes rhywun yn gwybod am enw torfol Cymraeg am ‘flush of ducks’?

 

Diolch

Tegwen