Bore da'The music is a blend of soul and gospel...'Cyd-destun = Rhaglen TheatrMae GyA yn cynnig 'canu hwyl' am gospel. Dydw i methu dod o hyd i gyfieithiad o 'soul' yn y cyd-destun hwn. Rhaid dweud fy mod wedi gweld y geiriau yn eu ffurf gysefin mewn dogfennau Cymraeg a bod hynny'n gweddu rhywsut, ond nawr fy mod yn wynebu cyfieithu'r geiriau fy hun dydw i ddim mor siwr a fyddai hynny'n dderbyniol. Gellir dadlau bod y ffurf gysefin yn genre cydnabyddedig ynddo'i hun ac felly'n gwrthsefyll cyfieithu. Byddwn yn ddiolchgar o'ch barn os gwelwch yn dda.Diolch yn fawrSiân