Print

Print


Ond mae "yn gwneud" yn iawn - h.y. sut fysa ti'n deud 6 x 7 = 42 - "Chwe 
saith yn gwneud pedwar deg dau".

Wrth adrodd y tabl, dim ond "Chwe saith, pedwar deg dau"

Fel yn Saesneg "six sevens forty-two"

On 02/07/2015 13:15, Ann Corkett wrote:
> Mae'n anodd dweud heb weld y cyd-destun i gyd, ond oni raid meddwl am 
> y peth fel petai'r awdur yn ysgrifennu yn Gymraeg, nid chwilio am 
> gyfieithiadau o eiriau Saesneg, h.y. meddwl am "ddulliau a ddefnyddir" 
> i son am luosi, nid "geiriau a ddefnyddir".  Mae hyn yn digwydd i ryw 
> raddau wrth i bobl gynnig y pethau y mae eu plant yn eu defnyddio, ond 
> oni ddylid dweud (gall rhywun arall awgrymu sut) bod modd son am luosi 
> yn Gymraeg heb ddefnyddio gair am "times" o gwbl. Wrth feddwl, dwyedir 
> - neu dywedid - six sixes are thirty-six, nid six times six is 
> thirty-six.
> (Gyda llaw, "chwe saith" a "pum saith" byddai i'n eu dweud, nid 
> "chwech saith" ayb.)
> Ann
>
> On 02/07/2015 11:46, Sioned Graham-Cameron wrote:
>> Trin iaith mathemateg mae o, ac enghreifftiau o eiriau a ddefnyddir 
>> wrth sôn am luosi yw "times / lots of ..." ac ati
>>
>> Wrth gyflwyno'r swm, dwi'n cytuno nad oes angen defnyddio gair 
>> penodol ... falla mai dyna pam fedra i ddim meddwl beth fyddai'r gair!
>>
>>
>> On 2 Jul 2015, at 11:40, Megan Tomos wrote:
>>
>>> Oes angen rhywbeth o gwbl? Chwech saith = pedwardeg dau?
>>>
>>> Sent from my iPad
>>>
>>>> On 2 Gorff 2015, at 12:31, Sioned Graham-Cameron 
>>>> <[log in to unmask]> wrote:
>>>>
>>>> Teimlo'n hynod dwp bore ma!
>>>>
>>>> Mathemateg yw'r testun - beth ddefnyddir am 'times' h.y. 6 times 7?
>>>>
>>>> Diolch.
>>>>
>>>> Sioned
>>
>> -----
>> No virus found in this message.
>> Checked by AVG - www.avg.com
>> Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4365/10144 - Release Date: 
>> 07/02/15
>>
>>
>>
>