Mae'n ddrwg gennyf i ateb yn hwyr.  'Mae Bruce a finnau wedi cyfieithu nifer o lyfrau yn ymwneud a chelf ac erbyn hyn wedi arfer "dylunio' a 'dyluniadau' ar gyfer "to draw" a "drawings".
Ann

On 22/07/2015 15:46, EIRA PARRY wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Diolch yn fawr, bawb, am eich cynigion.

'Tynnu llun' amdani, felly!

Eira


 

From: Claire Richards <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 22 July 2015, 14:08
Subject: Re: To draw (yng nghyd-destun arlunwyr)

Beth am ‘drawing’ fel techneg, yn hytrach nag, er enghraifft, ‘painting’?
 
Ym Manyleb TAG Celf a Dylunio CBAC, rhestrir technegau, gan ddweud:
 
“It is particularly suitable for those who enjoy painting, drawing, print-making, constructing, modelling, fabricating, making, investigating, handling traditional and/or contemporary
media, materials, techniques and tools, inventing, improvising, planning and designing and using historical and contemporary influences and references.”
 
“Mae’n arbennig o addas ar gyfer y sawl sy’n mwynhau peintio, lluniadu, gwneud printiau, adeiladu, modelu, ffabrigo, gwneud, ymchwilio, trin a thrafod cyfryngau, defnyddiau, technegau ac offer traddodiadol a/neu gyfoes, dyfeisio, gwaith byrfyfyr, cynllunio a dylunio, a defnyddio dylanwadau a chyfeiriadau hanesyddol a chyfoes.”
 
Claire
 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 22 July 2015 13:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: To draw (yng nghyd-destun arlunwyr)
 
Iawn mewn cyd-destun technegol, ond 'tynnu llun' y mae arlunwyr.

Geraint
On 22/07/2015 11:43, Claire Richards wrote:
‘lluniadu’ sydd yn y Termiadur.
 
Claire
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of EIRA PARRY
Sent: 22 July 2015 11:30
To:
[log in to unmask]
Subject: To draw (yng nghyd-destun arlunwyr)
 
Beth fyddech chi'n ei ddefnyddio am yr uchod?
 
Darlunio? Tynnu llun? GyrA yn cynnig y ddau.
 
Yn tueddu i fynd am 'darlunio' er mwyn gwahaniaethu rhwng tynnu llun efo camera  ond mae sawl enghraifft o 'tynnu llun' wrth wglo.  Mae'n codi sawl gwaith yn y darn.
 
W^yr rhywun am wefan arlunio Gymraeg y gallwn droi ati hefyd?
 
Diolch am unrhyw gymorth,
 
Eira
 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4392/10284 - Release Date: 07/22/15